Dathlu llwyddiannau deiliaid diweddaraf y Dystysgrif Sgiliau Iaith
Fel rhan o ddathliadau Wythnos Shwmae Su鈥檓ae yma ym Mhrifysgol Mangor, cynhelir digwyddiad i ddathlu gwaith myfyrwyr Cangen 黑料不打烊 o鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd cyfle i roi sylw i rai o鈥檙 myfyrwyr hynny sydd wedi llwyddo i ennill y Dystysgrif Sgiliau Iaith eleni. Bydd rhai o Lysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy鈥檔 astudio ym Mangor yno hefyd.
Cynhelir y digwyddiad anffurfiol yn Gorad, Pontio, am 2 o鈥檙 gloch bnawn Mercher, 17 Hydref.
Mae鈥檙 Dystysgrif Sgiliau Iaith yn gymhwyster cenedlaethol wedi ei hachredu gan CBAC, ac fe鈥檌 datblygwyd er mwyn galluogi myfyrwyr sy鈥檔 astudio yng Nghymru i ennill tystysgrif sy鈥檔 tystio i鈥檞 sgiliau iaith a鈥檜 gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o gyflogwyr blaenllaw eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i鈥檙 Dystysgrif, yn eu plith ITV Cymru, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae鈥檙 dathliad yn Pontio yn agored i staff a myfyrwyr ac yn gyfle i ddysgu am waith y Gangen dros baned a chacen ac i gyfeiliant Wil Chidley, myfyriwr Gwyddorau Eigion sydd hefyd yn aelod o鈥檙 band poblogaidd, Patrobas.
Ceir mwy o fanylion am y Dystysgrif Sgiliau Iaith ar wefan y ac am fwy o wybodaeth am Gangen 黑料不打烊 o鈥檙 Coleg, cliciwch ar y ddolen yma.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2018