Dawn yn hedfan wedi graddio!
Gadawodd Dawn Thompson o Gaergybi yr ysgol yn Singapore yn 17 oed gyda llond llaw o TGAU. Gan fod ei thad yn yr Awyrlu, nid oedd fawr o gyfle i fynd mlaen i addysg bellach ar y pryd, felly pan ddychwelodd y teulu i鈥檙 DU, dechreuodd waith fel derbynnydd mewn cwmni garddwriaethol.
Yn awr yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Personol i Gyfarwyddwr Rhaglen, Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol 黑料不打烊, graddiodd Dawn yn ddiweddar gyda BA (Anrh) Astudiaethau Cymdeithasol.
鈥淩oeddwn yn wastad wedi meddwl y gallwn wneud yn well, ond 鈥檇oedd gen i ddim o鈥檙 dewrder i wneud unrhyw beth amdano. Ond, wedi mynd gyda鈥檓 merch i ddiwrnod agored mewn Prifysgol ac eistedd yn y ddarlithfa鈥檔 clywed am fanylion y cwrs, sylweddolais mai 鈥渄yma dwi isio鈥. Wedi dod n么l, cofrestrais yn yr Ysgol Dysgu Gydol Oes ym Mangor ar gyfer gradd ran amser.鈥
鈥淩hoddodd staff Dysgu Gydol Oes ysbrydoliaeth, gwybodaeth ac anogaeth i mi ar hyd y daith drwy astudio rhan amser. Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth ac roedd help ar gael bob amser, pryd bynnag yr oedd gofyn amdano. Alla i ddim diolch digon i鈥檙 staff a鈥檙 tiwtoriaid am y cyfle a ges i wireddu f鈥檜chelgais o ennill y cymhwyster hwn.鈥
Fel nifer o fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol 黑料不打烊, unwaith y maent wedi dechrau dysgu, mae鈥檔 amhosibl eu dal n么l ac mae Dawn yn awr ar fin dechrau ar radd Meistr mewn Arwain a Rheoli.
I gael gwybod mwy am raddau rhan amser, cysylltwch 芒 Dysgu Gydol Oes 01248 383668 neu ewch i鈥檙 wefan
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2011