Dechrau da i Barc Gwyddoniaeth Menai
Mae tenantiaid cyntaf y Parc Gwyddoniaeth gwerth 拢20m ar Ynys M么n wedi cael eu henwi, gydag amrediad eang o fusnesau a phrosiectau sy'n amrywio o fusnesau newydd i Fusnesau Bach a Chanolig mawr, bob un ohonynt yn awyddus i arloesi a thyfu.
Ar hyn o bryd mae 11 o gwmn茂au鈥檔 barod i symud i mewn i Barc Gwyddoniaeth Menai (), sef is-gwmni sydd o dan berchnogaeth lwyr Prifysgol 黑料不打烊, pan fydd y Parc yn agor ei ddrysau yn gynnar yn 2018.
Adeilad M-SparcMae M-SParc yn brosiect a ariannwyd yn rhannol gan Gyllid Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Ei nod yw darparu safle o ansawdd uchel i gwmn茂au yn y sector gwyddoniaeth a thechnoleg a chynnig pecynnau cymorth unigryw i bob cwmni er mwyn eu helpu i dyfu. Y targed deiliadaeth oedd gan M-SParc ar gyfer y flwyddyn gyntaf oedd 15%. Ond, oherwydd bod gymaint mwy o alw na鈥檙 disgwyl wedi bod am le yn y Parc, rhagwelir y bydd dros draean o'r adeiladau wedi鈥檜 gosod pan fydd y Parc yn agor.
Mae 11 o gwmn茂au, sy'n amrywio o fusnesau newydd i gwmn茂au mawr sydd wedi hen ennill eu plwyf yn y sectorau carbon isel, TGCh a gweithgynhyrchu uwch, wrthi鈥檔 gwneud trefniadau i fod yn denantiaid cyntaf y Parc. Mae llawer o'r cwmn茂au hefyd yn gysylltiedig 芒 gweithgareddau Ymchwil a Datblygu Prifysgol 黑料不打烊 neu鈥檔 cynnig lleoliadau gwaith ac yn cael budd o'r cyswllt hwnnw 芒'r Brifysgol.
Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn i M-SParc ac i'r Brifysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Ieuan Wyn Jones: 鈥淩oeddem wedi pennu targedau uchelgeisiol ond realistig o ran nifer y tenantiaid a fyddai鈥檔 dod i mewn ar y diwrnod cyntaf, ond mae'n braf iawn gweld ein bod wedi rhagori cryn dipyn ar y targedau hynny. Ein nod yw helpu cwmn茂au i dyfu ac roedd angen i ni wneud yn si诺r bod digon o le iddyn nhw wneud hynny yn yr adeilad. Mae'r galw wedi bod yno erioed ond wrth i'r diddordeb yn M-SParc dyfu, roedd y galw hefyd yn cynyddu. Mae鈥檔 galonogol iawn bod llawer o'r cwmn茂au yn rhai sy'n lleol i'r rhanbarth, ac mae gennym hefyd rai buddsoddiadau o'r tu allan. Braf hefyd yw gallu helpu cwmn茂au newydd sbon mewn amgylchedd cefnogol lle mae Cymorth Busnes yn elfen hanfodol o'r hyn rydym yn ei gynnig.鈥
Ymysg y cwmn茂au newydd mae Ambionics, cwmni o Borthaethwy sy'n datblygu technoleg a fydd yn newid bywydau drwy greu breichiau prosthetig i blant. Meddai Ben Ryan, sefydlydd Ambionics: 鈥淢ae cael lle tebyg i M-SParc yn y rhanbarth yn wirioneddol newid y ffordd y mae cwmni'r un fath ag Ambionics yn gallu gweithredu. Mae'r cymorth busnes rydw i wedi'i gael fel tenant rhithiol wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydw i鈥檔 ysu am gael symud i mewn a dechrau rhwydweithio 芒 phobl eraill o'r un feddwl 芒 mi.鈥
Mae'r cwmn茂au eraill yn cynnwys: Geosho, sef cwmni datblygu meddalwedd mapio tirwedd symudol sydd wedi鈥檌 leoli yng Nghaernarfon; Papertrail o Lanfairfechan sy'n datblygu systemau trywydd archwilio electronig sy'n lleihau'r angen am gofnodion papur ac sy鈥檔 cyflymu prosesau mewnol; Diagnostig, cwmni a ddechreuodd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 sy鈥檔 datblygu dull newydd chwyldroadol o brofi am TB buchol a dynol; a HET Creadigol, cwmni cydweithredol newydd o Ynys M么n sy鈥檔 cynnig gwasanaeth marchnata, datblygu apiau a Dylunio Gwefannau.
Yn allweddol, mae yma hefyd gwmn茂au o'r tu allan i'r rhanbarth sy鈥檔 cynnig mewnfuddsoddiad y mae angen taer amdano yn yr ardal. Mae FarmLab Diagnostic, cwmni sydd wedi'i leoli yng Ngweriniaeth Iwerddon ac sy鈥檔 darparu gwasanaethau profi diagnostig gan ddefnyddio technegau diagnostig modern, hefyd yn gobeithio sicrhau lle ar gyfer labordy yn M-SParc.
Y tenant mwyaf fydd Loyalty Logistix, cwmni sydd wedi鈥檌 leoli ym Mangor ar hyn o bryd ac sy鈥檔 cyflogi dros 50 aelod o staff er mwyn datblygu gwasanaethau gwybodaeth data a chadw cwsmeriaid ar gyfer y diwydiant ceir.
Meddai Bobby Williams, Prif Weithredwr Loyalty Logistix: 鈥淢ae ein gwaith yn ymwneud 芒 th卯m ymroddedig o ddatblygwyr sy鈥檔 sicrhau eu bod ar flaen y gad bob amser yn y maes technolegol hwn ac yn cynnal sylfaen gwsmeriaid fyd-eang ar yr un pryd. Mae M-SParc yn lleoliad delfrydol i greu鈥檙 argraff iawn o鈥檔 cwmni, gan ei fod yn adeilad mor drawiadol. Mae ei ddyluniad hyblyg hefyd yn golygu y gallwn ehangu'r cwmni heb orfod ail-leoli'r busnes, sy'n fantais oherwydd bod hyn yn helpu i gadw staff. Graddedigion o Brifysgol 黑料不打烊 ydi llawer o鈥檔 gweithwyr ac maen nhw鈥檔 hoffi'r syniad eu bod yn gallu gweithio mewn ardal gyfarwydd y maen nhw wedi mwynhau astudio ynddi.
Mae鈥檔 wych o beth hefyd bod Gogledd Cymru yn gallu bod yn ganolbwynt pwysig i fusnes, a bydd y bwrlwm o weithgarwch a fydd yn llenwi鈥檙 adeilad o'r munud y bydd rhywun yn cerdded i mewn yn rhoi darlun gwych o'r hyn sydd gennym i'w gynnig fel rhanbarth.鈥
Mae M-SParc yn dod 芒 budd ychwanegol i'r economi ranbarthol oherwydd bod unedau mwy ar gael i denantiaid preswyl, sy鈥檔 golygu eu bod yn gallu uwchraddio ar y safle heb orfod symud i rywle arall. Yn ei dro, mae hyn yn rhyddhau lle ar gyfer busnesau yn nyddiau cynnar eu cylch busnes. Mae'r 'cylch arloesi鈥 yn bwysig, er mwyn annog a denu busnesau newydd i'r rhanbarth, gan ddarparu cyfleoedd gwaith o ansawdd uchel i bobl ac arallgyfeirio'r economi.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, yr Athro John G. Hughes: 鈥淢ae'r parc gwyddoniaeth newydd eisoes yn cynnig cyfle gwych i gwmn茂au a phobl leol sefydlu eu hunain yn yr ardal ac elwa o'r arbenigedd o safon fyd-eang sydd ar gael yn y Brifysgol. Rydw i鈥檔 falch dros ben o'r cynnydd sydd wedi鈥檌 wneud hyd yma, ac yn edrych ymlaen at weld y fenter yn mynd o nerth i nerth wrth iddi greu cyfleoedd a swyddi newydd yn y rhanbarth.鈥
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan M-SParc (www.m-sparc.com) neu anfonwch e-bost i post@m-sparc.com.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2017