Defnyddio'r gwyddorau cymdeithas i fynd i'r afael 芒 thlodi
Daeth myfyrwyr chweched dosbarth o Ysgol David Hughes, Ysgol Tryfan ac Ysgol Friars i gynhadledd undydd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar 7 Tachwedd i drafod y Gwyddorau Cymdeithas a syniadau ar gyfer eu haseiniadau ar gyfer Bagloriaeth Cymru.
Ms Louise Prendergast, myfyrwraig PhD, yn rhoi ei chyflwyniad
Roedd y gynhadledd undydd hon yn rhan o wythnos yr 糯yl Gwyddorau Cymdeithas ac yn un o nifer fawr o weithgareddau a gafodd eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig.
Teitl y gynhadledd oedd 'Defnyddio Gwyddorau Cymdeithas i Fynd i'r Afael 芒 Thlodi'. Diben y gynhadledd oedd helpu'r myfyrwyr i gyflawni rhywfaint o ofynion cymhwyster Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang. Rhoddodd staff a myfyrwyr PhD o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas gyflwyniadau ar bynciau amrywiol, gan gynnwys tlodi yng Nghymru a thlodi ledled y byd; tlodi bwyd yng ngogledd Cymru; yr anghydraddoldebau sy'n wynebu Sipsiwn a theithwyr; tlodi a throsedd; beichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau a thlodi; a thlodi a diffyg nawdd cymdeithasol.
Yn y prynhawn cafwyd adborth gan fyfyrwyr o Ysgol David Hughes yngl欧n 芒 Chynhadledd Tlodi y buont ynddi yn y Senedd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Cynhaliwyd gweithdy yn y prynhawn yn archwilio i gwestiynau a meysydd diddordeb mewn rhagor o fanylder. Darparwyd cinio gan Gaffi Cyfrannu i Rannu, Bethesda.
Dywedodd Mrs Delyth Williams, Cydlynydd Bagloriaeth Cymru Ysgol David Hughes: 'Fe gafodd y myfyrwyr ddiwrnod buddiol iawn - mae sawl un ohonyn nhw wedi defnyddio eu diwrnod i weithio ar eu prosiectau unigol ac mae rhai wedi s么n am y diwrnod yn eu datganiadau personol!'
Dywedodd Dr Hefin Gwilym, trefnydd y gynhadledd: 'Mi gafwyd cynhadledd lwyddiannus iawn oherwydd diddordeb a brwdfrydedd y myfyrwyr a chyfraniad staff a myfyrwyr PhD yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas'.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2016