Denu arbenigwyr gwyddor gymdeithasol y dyfodol i Gymru
Dyfarnwyd miliynau o bunnau i brifysgolion blaenllaw Cymru er mwyn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol o鈥檙 radd flaenaf mewn amrediad o faterion sy鈥檔 effeithio ar gymdeithas y dyddiau hyn.
Bydd sefydlu Canolfan Hyfforddi Ddoethurol yn golygu y bydd modd cynnig 33 o ysgoloriaethau ymchwil i fyfyriwr 么l-raddedig yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Bydd y myfyrwyr 么l-raddedig yn derbyn hyfforddiant mewn amrediad o ddisgyblaethau, gan gynnwys polisi cymdeithasol, seicoleg, economeg, cynllunio amgylcheddol ac ieithyddiaeth.
Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain consortiwm Cymru ar y cyd ag Aberystwyth, 黑料不打烊 ac Abertawe i greu鈥檙 Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol, wedi鈥檌 hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Bydd Prifysgol 黑料不打烊 yn arwain mewn tri maes pwnc yn y ganolfan, sef seicoleg, dwyieithrwydd ac economeg a chyllid, er y bydd pob myfyriwr doethuriaeth ym maes gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru鈥檔 elwa o gydweithrediad agosach rhwng y pedwar sefydliad.
Yn ogystal a鈥檙 pynciau a restrwyd uchod, mae鈥檙 meysydd pwnc eraill a fydd yn denu鈥檙 ysgoloriaethau ymchwil ag ariannu llawn, yn cynnwys addysg, daearyddiaeth ddynol, astudiaethau rheoli a busnes, gwyddor wleidyddol a chysylltiadau rhyngwladol, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg, gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol, troseddeg, cymdeithaseg, dwyieithrwydd, astudiaethau鈥檔 seiliedig ar ieithoedd ac astudiaethau empirig yn y gyfraith.
Bydd manylion llawn yngl欧n 芒鈥檙 ysgoloriaethau ymchwil a sut i wneud cais ar gael cyn bo hir ar wefannau鈥檙 prifysgolion cyfranogol.
Mae consortiwm Cymru yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o 21 o Ganolfannau Hyfforddi Doethurol ar draws y DG, yn cael eu barnu gan ESRC i ddarparu hyfforddiant gwirioneddol ragorol i fyfyriwr 么l-raddedig.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Dr David Grant: 鈥淢ae鈥檙 cydweithio llwyddiannus hwn yn hwb i enw da Cymru yn rhyngwladol am ragoriaeth yn y gwyddorau cymdeithasol.
鈥淲rth ennill achrediad, mae Canolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru wedi dangos rhagoriaeth yn ehangder ei hyfforddiant yn y gwyddorau cymdeithasol i fyfyriwr 么l-raddedig, sy鈥檔 rhan o amgylchedd ymchwil o鈥檙 ansawdd gorau.鈥
Dywedodd y Cyfarwyddwr Ymchwil ym Mhrifysgol 黑料不打烊, yr Athro Jo Rycroft-Malone: 鈥淏ydd trefniadau鈥檙 Ganolfan Hyfforddi Ddoethurol yn ychwanegu agweddau newydd gwerthfawr at brofiad myfyrwyr 么l-raddedig wrth gynnig llwybrau mwy amrywiol, hyfforddiant uwch, a gwell cymorth. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd ymchwil rhyngddisgyblaethol, ac mae 黑料不打烊 wrth ei bodd yn cyfranogi.鈥
Bydd yr ysgoloriaethau ymchwil yng Nghanolfan Hyfforddi Ddoethurol Cymru yn dechrau ym mis Hydref 2011. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ESRCWalesDTC@cardiff.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2011