Dewch i brofi diwylliant Japan fel rhan o ymgyrch hel arian y penwythnos yma.
Mae criw o fyfyrwyr 黑料不打烊 yn cynnal digwyddiad i gefnogi dioddefwyr y daeargryn yn Japan yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg ar Ddydd Sadwrn Mawrth 26ain rhwng 2yp a 6yh. Bydd cyfres o weithdai cyffroes gan gynnwys caligraffi, origami, paentio wynebau a hefyd cyfle i drio 鈥榢imono鈥 yn ogystal 芒 pherfformiadau byw, marchnad a sioe ffasiwn gyda gwisgai o wledydd ar draws y byd.
Mi fydd aelodau o鈥檙 ymgyrch 鈥満诹喜淮蜢 dros Japan鈥 hefyd yn casglu arian ar hyd a lled 黑料不打烊 dros yr wythnosau nesaf i godi arian ar gyfer Cymdeithas Groes Goch Japan.
Mae鈥檙 ymgyrch wedi cynnal un digwyddiad llwyddiannus iawn yn barod i godi arian - wythnos diwethaf cafodd bobol gyfle i wrando ar ddrymiau Taiko a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 Japan megis origami.
Dywedodd un o鈥檙 trefnwyr: 鈥淩ydym eisiau dweud diolch enfawr i bawb a ddaeth i gefnogi鈥檙 digwyddiad y penwythnos diwethaf. Diolch i bawb a oedd yn gysylltiedig 芒鈥檙 digwyddiad - mi gafodd pawb ddiwrnod gwych ac fe lwyddom i godi 拢860 - dim yn ddrwg mewn pum awr!
鈥淩oedd gymaint o gyfraniadau gwych i鈥檙 raffl ac rydym yn gobeithio defnyddio鈥檙 gweddill mewn digwyddiad arall. Mi fyddem yn tynnu鈥檙 raffl ar yr 2il o Ebrill felly nid yw鈥檔 rhy hwyr i gael tocynnau!鈥
Mi fydd aelodau yn hel arian hyd at Ddydd Sul, Ebrill 10fed yn y mannau isod:
鈥 Llun-Gwener: 12:00-14:00 Morrisons
鈥 Sadwrn: 11:00-16:00 Stryd Fawr a Morrisons
鈥 Sadwrn: 12:00-14:00 Morrisons
Mae bocsys ar gyfer cyfraniadau hefyd wedi eu lleoli yng Nghaffi Dylan ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, y Ganolfan Reolaeth, Canolfan yr Amgylchedd, Brigantia, Wheldon, Maes Glas, Late Shop a鈥檙 Swyddfa Bost ym Mangor Uchaf.
I brynu tocynnau raffl neu am wybodaeth yna cysylltwch 芒 Atsushi Kajimoto elu633@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2011