Digwyddiad #ITSFORUS
Ymunwch 芒 Myfyrwyr Rhyngwladol yn Mynd yn Wyrdd a Source to Sea Productions i ddigwyddiad sy'n dathlu beth allwn ni ei wneud i wneud gwahaniaeth amgylcheddol! Yn y digwyddiad #itsforus ceir stondinau, pethau i'w rhannu am ddim, gemau llawn hwyl a dangosiad cyntaf ffilm fer sy'n s么n am y ffordd y gellwch arbed arian a'r blaned!
"Rydym wedi treulio llawer o amser yn siarad am blastig, eitemau a ddefnyddir unwaith, gwastraff a lles pobl a'r blaned. Bwriad #itsforus yw ysbrydoli pobl i newid yn y pethau bychain hynny y gallwn i gyd eu gwneud i sicrhau gwahaniaeth." - Danielle Katz, Cyfarwyddwr Source to Sea Productions.
Dewch draw i gael dillad am ddim neu i roi rhai o'ch hen ddillad i'r cynllun Cyfnewid Dillad a noddir gan Bywyd Campws. Rhowch gynnig ar eich sgiliau ailgylchu yn y Lab Cynaliadwyedd a chlywed am Broject Bwyd y Ddraig Lwglyd gydag Enactus. Cymerwch ran yn y cyfleoedd gwirfoddoli yn UNDEB; mynnwch sgwrs gyda'r grymoedd creadigol tu 么l i Gymdeithas Ffilm Prifysgol 黑料不打烊; neu ymunwch 芒 digwyddiadau cymunedol gydag 黑料不打烊 Di-blastig, Cipio ein Harfordir, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, a Chyngor Gwynedd.
"Mae'n bleser gan Fyfyrwyr Rhyngwladol yn Mynd yn Wyrdd helpu i dynnu ynghyd gr诺p amrywiol i ddathlu'r rhai sy'n gwneud ymdrech i sicrhau dyfodol gwell." - Marcel Clusa, Cyfarwyddwr Myfyrwyr Rhyngwladol yn mynd yn Wyrdd. Mae hwn yn broject gan Swyddfa Cefnogaeth Ryngwladol Prifysgol 黑料不打烊 a Source to Sea Productions; mewn cydweithrediad 芒 Bywyd Campws, Y Lab Cynaliadwyedd, Enactus, Cymdeithas Ffilm Prifysgol 黑料不打烊, UNDEB, 黑料不打烊 Di-blastig, Cipio ein Harfordir, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, a Chyngor Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2018