Digwyddiad pwrcasu yn llwyddiant
Mae digwyddiad gafodd ei gynnal er mwyn darganfod sut y gall cynghorau wella eu hymarfer da o ran pwrcasu wedi derbyn adborth bositif gan fusnesau lleol, llywodraeth leol ac academyddion.
Yn ystod y digwyddiad, gafodd ei drefnu ar y cyd gan Gyngor Sir Ynys M么n a Sefydliad Ar Gyfer Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael yn Prifysgol 黑料不打烊, trafodwyd sut y gall cynghorau ddefnyddio pwrcasu er mwyn cynnig gwasanaethau mwy effeithlon a chynnig cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig. Daeth dros 70 o bobl i鈥檙 digwyddiad gan gynnwys swyddogion caffael, busnesau, cyflenwyr, arbenigwyr cyfreithiol a myfyrwyr.
Roedd y siaradwyr ar y noson yn cynnwys Yr Athro Gustavo Piga, Athro mewn Economeg, Adran Fusnes, Prifysgol Rhufain Tor Vergata, fu鈥檔 trafod pwrcasu yn y sector cyhoeddus a鈥檙 berthynas rhwng sefydliadau cyhoeddus a busnesau bach a chanolig o safbwynt Ewropeaidd ac economeg.
Arwyddodd Y Cyng Bryan Owen, Arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n a鈥檙 Athro Dermot Cahill, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ar Gyfer Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Prifysgol 黑料不打烊, Gofnod o Ddealltwriaeth yn y digwyddiad yn cadarnhau y byddai鈥檙 sefydliadau yn gweithio gyda鈥檌 gilydd dros y ddwy flynedd nesaf i adolygu a gwella鈥檙 broses pwrcasu ar draws y Cyngor.
Un aelod o鈥檙 gynulleidfa oedd y dyn busnes lleol Andy Basham, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni gwasanaethau electroneg Owen and Palmer Ltd. Meddai, 鈥淔e gefais fy siomi ar yr ochr orau gan y digwyddiad yma. Roedd yn chwa o awyr iach i deimlo fod rhywun yn gwrando ar fusnesau bach a chanolig ac i weld Cyngor Sir Ynys M么n yn cymryd cam bositif o ran pwrcasu, gan fod 50% o fy staff yn byw ar yr ynys. Roedd y siaradwyr yn rhagorol, ac rwy鈥檔 mawr obeithio y bydd y cyngor yn parhau i gynnig digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol.鈥
Ychwanegodd Yr Athro Dermot Cahill, 鈥淢ewn cyfnod o lymder ariannol, mae鈥檔 angenrheidiol fod cynghorau fel Ynys M么n yn cymryd y cyfle i ddod a鈥檜 pwrcasu ymlaen i gymharu gyda鈥檙 ymarfer da gorau yn Ewrop fel bod y ddau amcan o ymdopi gyda llai wrth hybu adfywiad economaidd yn cael eu bodloni.
鈥淩oedd presenoldeb arweinwyr gwleidyddol Cyngor Sir Ynys M么n a鈥檙 t卯m arweinyddiaeth strategol yn dangos fod y cyngor yn cydnabod yr angen i weithio gyda鈥檙 arbenigedd gorau sydd ar eu stepen drws er mwyn darparu gwasanaeth pwrcasu sy鈥檔 addas ar gyfer y Cyngor a鈥檌 gyflenwyr. Mae鈥檙 Cyngor yn ymwybodol fod angen i staff a chyflenwyr gael hyfforddiant pellach cyn medru gwneud y gwelliannau hyn. Bydd ein partneriaeth yn datblygu cylch pwrcasu yma mewn ffordd sydd o fudd i bawb sy鈥檔 rhan ohono.鈥
鈥淢ae鈥檔 glir ar draws Gogledd Cymru fod r么l cynghorau lleol yr economi rhanbarthol yn anferth, ac felly mae angen i gynghorau sylweddoli fod arferion pwrcasu sy鈥檔 agored i fusnesau bach a chanolig yn bwysig o ran cyflawni amcanion strategol, cymdeithasol ac economeg y rhanbarth. Rydym yn cynnig arbenigedd yn ein sefydliad, a gwybodaeth o鈥檙 prosiect 鈥楨nnill mewn Tendro鈥 er mwyn helpu Ynys M么n i drawsnewid y broses pwrcasu i gyflenwyr. Edrychwn ymlaen at ddatblygu perthynas ffrwythlon, a phartneriaeth sydd 芒鈥檙 potensial i greu deilliannau hirdymor.鈥
Caiff projectau Sefydliad Ar Gyfer Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael ac "Enninll wrth Dendro" ei ran ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Iwerddon Cymru (INTERREG 4A).
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2012