Dillad y Super Furries yn rhan o gasgliad anferth
Dr Craig Owen Jones gyda myfyrwyr yn modelu'r gwisgoeddMae gwisgoedd arbennig sy鈥檔 perthyn i un o fandiau enwocaf Cymru wedi eu rhoi ar fenthyg i Archif Pop Prifysgol 黑料不打烊.
Mae'r gwisgoedd a cafodd eu defnyddio gan y Super Furry Animals yn y fideo Golden Retriever ymhlith pentwr o wrthrychau sydd wedi ei roi ar fenthyg tymor hir i鈥檙 Brifysgol gan y canwr Gruff Rhys.
Mae hwnnw hefyd yn cynnwys gwisgoedd llwyfan a phosteri gigs ac yn ychwanegu at yr hyn sydd bellach yn gasgliad anferth am y byd pop Cymraeg.
鈥淐afodd yr archif ei sefydlu ddwy flynedd yn 么l er mwyn casglu pob math o eitemau yn ymwneud 芒 cherddoriaeth bop iaith-Gymraeg o'r 40au hyd at y diwrnod presennol,鈥 meddai Dr Craig Owen Jones o鈥檙 Ysgol Cerddoriaeth.
鈥淩ydym yn hapus iawn bod Gruff a'r band wedi cytuno i gyfrannu. Mae'r archif yn cynnwys cryn dipyn o eitemau sydd yn berthyn i gerdd bop o'r 60au a'r 70au, ond mae'n bwysig i ni ddiogelu pob rhan o'n hetifeddiaeth gerddorol - gan gynnwys y pethau sydd yn digwydd yn y sin roc Gymraeg heddiw.
"Erbyn hyn mae'n cynnwys miloedd o eitemau, gan gynnwys posteri gan fandiau megis Y Blew a'r Trwynau Coch; cylchgronau megis Asbri, Sgrech, a Sothach; a chyfraniadau amrywiol gan artistiaid a labeli megis Brigyn, Ectogram, Ankst, Gorky's Zygotic Mynci, ac eraill. Eitem ddiddorol yw鈥檙 byrddau geiriau caneuon yr oedd Dafydd Iwan yn eu defnyddio ar lwyfan..
鈥淎r hyn o bryd rydym yn gwneud cyfweliadau fideo gyda cherddorion a phobl sy'n gysylltiedig 芒'r byd pop Cymraeg. Y bwriad yw storio'r cyfweliadau yma yn yr archif er mwyn creu casgliad unigryw i ymchwilwyr y dyfodol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2010