Diolch i Rhys 鈥淎m hybu cerdd a chreu llawenydd鈥︹
Bu cefnogwyr mwyaf yr actor o fry Rhys Ifans, un o gymrodorion er anrhydedd Prifysgol 黑料不打烊, yn wahoddedigion arbennig mewn rhagolwg o gynhyrchiad o 鈥楶edr a鈥檙 Blaidd鈥 yn yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf, mis yma.
Ensemble Cymru , Ensembl Preswyl Prifysgol 黑料不打烊 ynghyd 芒 chwmni teledu Fflic Cyf, fu鈥檔 cynnal yr rhagolwg unigryw yn Venue Cymru Llandudno, ble mae鈥檙 ensembl hefyd yn breswyl.
Roedd y perfformiad arbennig yn cynnwys cerddorfa byw o 28 o gerddorion Ensemble Cymru, darluniau gan Marc Vyvyan Jones a throslais Rhys Ifans o gyfieithiad Cymraeg Yr Athro Gwyn Thomas o'r stori Rwseg draddodiadol.
Mewn derbyniad arbennig cyn y perfformiad fe dderbyniodd Mr a Mrs Evans ffr芒m coffaol ar ran eu mab fel ' diolch' i Rhys am ei gyfraniad gwerthfawr i鈥檙 prosiect ;
"Byddai Rhys wedi bod wrth ei fodd bod yma ei hun heddiw, ond 鈥榙a ni鈥檔 falch iawn i fod yma ar ei ran... allwn ni ddim aros i adrodd yr hanes wrtho! " dywedodd Mrs Beti Evans.
Fe gydiodd y perfformiad yn nychymyg gwesteion arbennig Ysgol Pentrecelyn, lle bu Rhys yn ddisgybl a lle bu Mrs Evans ei hun yn athrawes. Roeddent wrth eu boddau i fod yn rhan o achlysur mor bwysig, dywedodd un disgybl wrthym "Roedd o鈥檔 sioe gret, roeddwn i鈥檔 hoffi POB peth鈥
Cyfansoddwyd 'Peter and the Wolf ' gan Sergei Prokofiev gyda nod tebyg iawn i fwriad Ensemble Cymru sef; i gyflwyno鈥檙 gerddorfa i blant am y tro cyntaf.
Dywedodd Peryn Clement -Evans , Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, 鈥淩ydym wrth ein boddau gyda鈥檙 ymateb cadarnhaol rydym wedi鈥檌 dderbyn gan blant, rhieni a gwesteion i'n rhagolwg. Rwy'n edrych ymlaen at glywed ymatebion y plant ac ysgolion a ddaeth i'r perfformiad yr wythnos hon er mwyn i ni gynnwys eu syniadau fel rhan o daith cynhyrchiad Pedr a'r Blaidd yn 2014鈥
Diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru , S4C a nifer o ymddiriedolaethau, Prifysgol 黑料不打烊 a Venue Cymru y bydd y cynhyrchiad hwn yn mynd ar daith fis Mawrth 2014 gan ddod 芒 cherddoriaeth gerddorfaol fyw i deuluoedd a phlant ar draws Cymru.
Gallwch wylio'r perfformiad o ' Pedr a'r Blaidd ' Dydd Nadolig ar S4C.
Am fanylion pellach ac am docynnau ar gyfer taith 2014 cysylltwch ag Ann Wyn Barker , Swyddog Marchnata Ensemble Cymru , ann@ensemblecymru.co.uk neu 01248 383 257
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2013