Disgyblion yn cael eu gwobrwyo am gymryd rhan mewn project Cymru gyfan
Y disgyblion o Ysgol Friars a fu'n cymryd rhan yn y cynllyn gyda'u mentor Rebecca Kirkby.Daeth dros 150 o ddisgyblion o wyth ysgol yng ngogledd Cymru i Brifysgol 黑料不打烊 i ddathlu trydedd flwyddyn lwyddiannus y project Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern. Nod y project hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'u cynllun Dyfodol Byd-eang, yw cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion ledled Cymru. Yr ysgolion a oedd yn bresennol oedd Tryfan, Emrys ap Iwan, Y Rhyl, Friars, Dyffryn Ogwen, Argoed, Caergybi a Glan-y-M么r.
Cynhaliwyd y seremoni gan Lucy Jenkins, cydlynydd cenedlaethol y project, a Rub茅n Chapela-Orri, yr arweinydd ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Dywedodd Lucy Jenkins "Roedd hi'n bleser cael croesawu cynifer o ysgolion i Brifysgol 黑料不打烊 i ddathlu eu llwyddiant. Mae disgyblion, athrawon a mentoriaid fel ei gilydd wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y Project Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn llwyddo, a fedra i ddim diolch digon i bawb am eu brwdfrydedd! Dyma ddiwedd addas iawn i flwyddyn wych o ran mentora iaith! "
Dywedodd Dr Anna Saunders, Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern ym Mhrifysgol 黑料不打烊, "Rydyn ni'n falch iawn ym Mangor o'n myfyrwyr sy'n fentoriaid a'r holl waith y maen nhw wedi ei wneud gydag ysgolion i greu cenhedlaeth newydd o ieithyddion brwd. Roedd yna gyffro go iawn yn y seremoni wobrwyo, ac roedd hi'n hyfryd gweld y berthynas sydd wedi datblygu rhwng y mentoriaid a'u hysgolion."
Dywedodd Amanda Creevy, Ymarferydd Arweiniol TGAU Ieithoedd Tramor Modern GwE "Roedd hi'n wych gweld cynifer o bobl ifanc yn elwa o'r Project Ieithoedd Tramor Modern sy'n dangos y cydweithio sy'n digwydd rhwng Prifysgol 黑料不打烊 ac ysgolion ar draws rhanbarth GwE."
Sesiwn blasu mewn ManadrinCymerodd y disgyblion sy'n mynychu'r seremoni ran mewn helfa drysor gyffrous o amgylch y brifysgol, a chafwyd cyfle hefyd i gael sesiwn blasu mewn Galiseg, Mandarin neu Iaith Arwyddion.
Disgyblion Ysgolion Argoed yn dilyn sessiwn Galseg gyda Iria Aboi-Ferradas.Dywedodd Julie Kelsall, Arweinydd y Cwricwlwm Ieithoedd Tramor Modern yn Ysgol Uwchradd Argoed: "Fe gafodd ein disgyblion amser wrth eu boddau. Fe wnaethon nhw fwynhau'n arbennig y wers iaith Galiseg a chael crwydro o amgylch Prifysgol 黑料不打烊 gyda'u mentor Liam, a wnaeth waith ardderchog. Mae gweithgareddau fel hyn yn dod ag ieithoedd yn fyw i ddisgyblion yng Nghymru ac yn eu galluogi nhw i edrych ar y byd o safbwynt newydd."
Dywedodd Gillian Mortlock, y Pennaeth Ieithoedd yn Ysgol Uwchradd Caergybi: "Mae'r cynllun yma'n wych ac ers tair blynedd mae bob tro wedi codi ymwybyddiaeth ein disgyblion am fanteision dysgu iaith dramor fodern, gan ehangu eu gorwelion yn sylweddol."
Mae Mentoriaid Prifysgol 黑料不打烊 yn fyfyrwyr o'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern sydd wedi'u hyfforddi'n llawn ac sydd wedi'u cysylltu gydag ysgolion yng ngogledd Cymru trwy gydol y flwyddyn. Dywedodd Emily Carder, myfyriwr sy'n fentor:
"Mae'r cynllun mentora wedi rhoi profiad i mi o'r proffesiwn addysgu na fyddai fel arall ddim ond yn freuddwyd yn y cyfnod yma yn fy mywyd. Roedd cael y cyfle i sefyll o flaen gr诺p o ddisgyblion mor ddawnus yn annibynnol a chael cyflwyno gwersi yr oeddwn i wedi'u cynllunio yn werth chweil."
Dywedodd Hannah Jones, myfyriwr sy'n fentor: "Roedd hi'n wych gweld y disgyblion eto ac roedd yn rhyfeddol cael gweld y cynnydd y maen nhw wedi ei wneud! Roedd hefyd yn dda gweld yr athrawon, hebddyn nhw ni fyddai'r project wedi bod mor llwyddiannus."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018