Diwrnod Ffilm a Diwylliant Almaeneg
Yn ddiweddar, trefnodd Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol 黑料不打烊 ar y cyd gyda Llwybrau at Ieithoedd, Ddiwrnod Ffilm a Diwylliant Almaeneg, lle daeth myfyrwyr Safon Uwch a'u hathrawon o bedair ysgol yng ngogledd Cymru. Yr ysgolion fu'n bresennol oedd Ysgol David Hughes, Porthaethwy, Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn ac Ysgol Dinas Br芒n, Llangollen.
Yn ystod y bore cynhaliwyd gweithdai gan Dr Linda Shortt yn ymwneud 芒'r ffilm Good Bye Lenin, un o'r ffilmiau o faes llafur Safon Uwch Almaeneg CBAC. Roedd hwn yn gyfle i'r myfyrwyr, a oedd wedi gwylio'r ffilm cyn dod i Fangor, ymestyn eu dealltwriaeth ohoni ac ehangu eu geirfa Almaeneg.
Yn ystod y prynhawn testun gweithdy diwylliannol Dr Anna Saunders oedd r么l cofadeiladau yn yr Almaen gyfoes, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud 芒'r Holocost a Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Mewn gweithdy rhyngweithiol wedyn bu'r myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth o astudiaethau achos, ac yn dylunio eu cofadeil eu hunain i goff谩u digwyddiadau neu bobl allweddol yn hanes diweddar yr Almaen. Yn ystod sesiwn olaf y diwrnod cafwyd cyflwyniadau am eu syniadau gan bob un o'r grwpiau.
Yn ystod y dydd roedd pedair myfyrwraig Almaeneg o Brifysgol 黑料不打烊, Rebecca Williams, Anita Chauhan, Gesine Heil, a Ffion Roberts, yn cynorthwyo gyda'r gweithdai ac yn sgwrsio am eu profiad o astudio Almaeneg ac ymweld 芒'r Almaen.
Roedd adborth am y digwyddiad yn gadarnhaol iawn a chydnabuwyd safon a pherthnasedd y gweithdai gan y myfyrwyr a'r athrawon. Tynnwyd sylw at y them芒u hynod ddiddorol, a lefel gwybodaeth tiwtoriaid a myfyrwyr y Brifysgol. Nodwyd fod y digwyddiad wedi bod yn 'brofiad gr锚t' ac yn 'ddiddorol a defnyddiol iawn'. Dywedodd pawb fel ei gilydd yr hoffent ddod i ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol.
Lluniau ar gael .
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2012