Dr Clair Doloriert yn derbyn Cymrodoriaeth i gydnabod rhagoriaeth addysgu
Llongyfarchiadau i Dr Clair Doloriert, Darlithydd mewn Rheolaeth a Threfn, y dyfarnwyd
Mae Dr Clair Doloriert wedi derbyn Cymrodoriaeth Ddysguiddi gan Brifysgol 黑料不打烊 i gydnabod ei rhagoriaeth addysgu.
Graddiodd Dr Doloriert yng Ngholeg Busnes 黑料不打烊 ac mae hi wedi bod yn aelod o'r staff dysgu yno ers 10 mlynedd. Yn 2009, cafodd ei phenodi'n Ddirprwy Uwch Diwtor Personol yn yr ysgol, gan arwain y gwaith o ddatblygu llwyfan ar-lein newydd i diwtoriaid personol. Mae arloesi wedi bod yn rhan annatod o'i dulliau dysgu o'r dechrau, ac mae hi wedi creu adnodd i gefnogi'r contract seicolegol yn y berthynas rhwng myfyriwr a goruchwyliwr ac wedi ymgorffori dysgu ar y cyd a dysgu cymdeithasol yn ei haddysgu. Yn 2008, fe'i penodwyd yn un o Hyrwyddwyr Academaidd Menter cyntaf 黑料不打烊 a chael y dasg o annog staff i fod yn fwy mentrus yn eu gwaith. Ynghyd 芒'i chydweithwyr, dyfeisiodd fodiwl amlddisgyblaethol cyntaf Prifysgol 黑料不打烊, a wnaed yn weithgaredd allgyrsiol yn y pen draw - sef Menter trwy Ddylunio - sydd 芒'r nod o feithrin entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau academaidd.
Mae Dr Doloriert hefyd wedi bod yn ddylanwadol wrth annog arloesi mewn dulliau dysgu y tu allan i'r sector addysg uwch. Yn 2016, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Cyfnewid Gwybodaeth iddi gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC tuag at broject gyda Heddlu Gogledd Cymru, a fydd yn galluogi'r heddlu i ddefnyddio ymchwil academaidd i ddatrys problemau trefniadol. Mae hi wedi cael gwahoddiad i gynllunio llwybrau dysgu ym maes dysgu cymdeithasol a dysgu ar y cyd i CIPD - rhywbeth y mae hi wedi ymdrechu i gynnwys yn ei haddysgu ym Mangor ers y dechrau, yn bennaf trwy weithgareddau gr诺p ac aseiniadau.
Mae nifer y myfyrwyr o dan ei goruchwyliaeth sydd wedi ennill gwobrau am gyflwyno'r traethawd hir gorau yn eu blwyddyn - pum myfyriwr 么l-radd a dau fyfyriwr israddedig i gyd - yn tystio i ragoriaeth addysgu Dr Doloriert. Mae hi'n cael sgoriau cyson dda mewn gwerthusiadau modiwlau (85% fel arfer), ac yn 2016 dyfarnwyd gwobr CELT iddi gan y brifysgol am ragoriaeth mewn goruchwyliaeth a mentora.
Caiff y gydnabyddiaeth broffesiynol ei hategu yn sylwadau rhai o'i myfyrwyr presennol:
"Mae ei goruchwyliaeth wedi fy ysbrydoli, ac wedi bod o safon ragorol"
"Mae hi wedi fy nhywys trwy fy llwybr academaidd, mae hi'n amlwg yn gwneud amser i bethau sydd o bwys i'm lles academaidd yn ogystal 芒 rhoi'r hwb angenrheidiol i mi barhau i herio fy hun"
鈥淢ae hi wedi bod yn ffynhonnell gyson a dibynadwy o gefnogaeth ac anogaeth"
Bydd Dr Doloriert yn derbyn ei Chymrodoriaeth Ddysgu yn seremoni raddio'r ysgol ddydd Llun, 17 Gorffennaf 2017. Dyma'r bumed Gymrodoriaeth Ddysgu a ddyfarnwyd i Ysgol Busnes 黑料不打烊 mewn pum mlynedd, gyda Sara Closs-Davies, Colin Bradley, Wendy Ashurst a Dr Siwan Mitchelmore hefyd wedi derbyn yr anrhydedd dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017