Drama myfyriwr yn derbyn croeso ar ei thaith
Ll欧r TitusMyfyriwr yn , Prifysgol 黑料不打烊 sy鈥檔 gyfrifol am ysgrifennu drama sydd ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd, ac yn denu adolygiadau ac ymateb ffafriol tu hwnt.
Disgrifir Ll欧r Titus fel 鈥榰n o ddramodwyr mwyaf cyffrous Cymru鈥, ac mae ei ddrama diweddaraf, 鈥Drych鈥, yn gynhyrchiad o dan gyfarwyddiaeth Ffion Haf, hithau鈥檔 ddarlithydd Theatr a Pherfformio yn 鈥檙 Brifysgol yn ogystal 芒 bod yn Gyfarwyddwr Cyswllt Cwmni'r Fran Wen.
Yr actorion Bryn F么n a Gwenno Hodgkins sydd wrthi鈥檔 perfformio Drych, cynhyrchiad cyntaf Ll欧r Titus, sydd yn seiliedig ar ddau gymeriad sy鈥檔 sgwrsio鈥檔 ddiwyd am ryfeddodau a chymhlethdodau bywyd.
Yn 么l Ffion Haf, mae Drych yn gofyn cwestiynau tywyllaf am fodolaeth dyn: 鈥淒rwy Drych cawn adlewyrchiad o daith dau sy鈥檔 ysu i ddeall mwy am eu bodolaeth drwy drafod y dwys a鈥檙 doniol, y materol a鈥檙 ysbrydol.鈥
Daeth Ll欧r, 22 oed o Sarn ger Pwllheli, i gyswllt a Chwmni鈥檙 Fr芒n Wen drwy gynllun ysgrifennu newydd i bobl ifanc sy鈥檔 cael ei redeg yn flynyddol gan y cwmni.
鈥淏u Ll欧r yn gweithio gydag Aled Jones-Williams fel rhan o gynllun Sgript i Lwyfan sy鈥檔 adnabod a mentora dramodwyr ifanc. Roedd yr ymateb i ddarlleniad cyhoeddus o waith Llyr yn syfrdanol - wedi鈥檜 swyno ac wedi ymgolli yn y stori, gadawodd y gynulleidfa eisiau clywed mwy gan y dramodydd naturiol ddawnus yma. Roeddent methu credu i ddramodwr ifanc lunio sgript a syniadau mor aeddfed,鈥 meddai Ffion.
鈥淢ae鈥檔 bwysig ein bod yn rhoi llwyfan i鈥檙 lleisiau ifanc newydd cyffrous yma oherwydd mai nhw yw dyfodol theatr.鈥
Meddai Ll欧r, sydd yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol 黑料不打烊: 鈥淩oedd cael gweithio gyda Aled Jones-Williams yn eithriadol, roedd o鈥檔 brofiad buddiol nid yn unig o ran gallu trafod syniadau hefo rhywun profiadol ond hefyd i gael amser ac anogaeth i fynd ati i sgwennu.鈥
Ychwanegodd Ffion: 鈥淓r mai bwriad O Sgript i Lwyfan oedd cynnig datblygiad i鈥檙 awduron mwyaf addawol gyda鈥檙 posibilrwydd o lwyfannu cynhyrchiad gorffenedig yn y pen draw, roedd yr ymateb i waith Ll欧r mor bwerus roedd yn rhaid i ni lwyfannu ei waith yn syth!鈥
Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yw鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams:
鈥淢ae Ll欧r yn wyneb cyfarwydd iawn inni bellach. Daeth atom yn fyfyriwr israddedig ac yntau newydd ennill Coron Eisteddfod yr Urdd tra oedd yn dal yn fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ac enillodd Fedal Ddrama鈥檙 Urdd yn ddiweddarach. Mae newydd gwblhau cwrs MA gyda ni ac ar fin cychwyn ar broject PhD wedi ei noddi gan yr AHRC. Profiad cynhyrfus fu dilyn ei ddatblygiad creadigol dros y blynyddoedd, mewn modiwlau ysgrifennu creadigol a sgriptio yn ogystal 芒 chystadlaethau cenedlaethol. Gwefr arbennig hefyd oedd cael bod yn rhan o gynulleidfa Galeri, Caernarfon 鈥 a鈥檙 lle dan ei sang 鈥 yn gwylio鈥檙 cynhyrchiad grymus o Drych. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld ei ddoniau fel llenor ac ysgolhaig yn mynd o nerth i nerth!鈥
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2015