鈥楧ramodydd gorau yn y Gymraeg鈥 yn fyfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg
Nos Sadwrn, 30 Ionawr, daeth nifer o gwmn茂au theatr, cyfarwyddwyr, actorion, dawnswyr a dramodwyr ynghyd yn Sherman Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer seremoni Gwobrau Theatrau Cymru 2015 - seremoni sy鈥檔 dathlu rhagoriaeth ym myd y theatr, opera a dawns.
Roedd 600 o enwebiadau unigol ar draws amrediad eang o gategor茂au, gan gynnwys 鈥榊 perfformiad gorau yn y Gymraeg (benyw)鈥, 鈥榊 perfformiad gorau yn y Gymraeg (gwryw)鈥, 鈥榊 cynhyrchiad Cymraeg gorau鈥 a鈥檙 鈥楧ramodydd Gorau yn y Gymraeg鈥.
Testun balchder i Ysgol y Gymraeg Prifysgol 黑料不打烊 oedd mai un o fyfyrwyr ymchwil yr Ysgol, Ll欧r Titus, 23 oed, o Frynmawr ger Sarn Meyllteyrn, a wobrwywyd fel 鈥榊 Dramodydd Gorau yn y Gymraeg鈥. Derbyniodd Llyr y wobr am ei ddrama Drych a gyfansoddodd fel rhan o gwrs sgriptio Cwmni鈥檙 Fr芒n Wen, 鈥楽gript i Lwyfan鈥, a lwyfannwyd yn genedlaethol y llynedd. Nid dyma鈥檙 tro cyntaf i waith Ll欧r dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol, gan iddo dderbyn Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011 a Medal Ddrama鈥檙 Urdd yn 2012.
Dywedodd Ll欧r: 鈥淢ae wedi bod yn brofiad da cael ysgrifennu drama a chael mynd 芒 hi ar daith ac mae cael unrhyw fath o gydnabyddiaeth am hynny wedyn yn ei wneud o鈥檔 gymaint gwell. Dwi鈥檔 ofnadwy o falch fy mod i wedi ennill - mae wedi bod yn brofiad anhygoel. Dwi mewn amgylchfyd da iawn yma, yn Ysgol y Gymraeg, os dwi isio gwneud y math yma o beth. Mae pawb, yn ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr yn gefnogol iawn.鈥
Rydym yn ymfalch茂o鈥檔 fawr yn ei lwyddiant ac yn dymuno鈥檙 gorau iddo i鈥檙 dyfodol.
Am fwy o fanylion am y gystadleuaeth gweler:
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2016