Drysau鈥檔 agored i gasgliadau archifau ac amgueddfa Prifysgol 黑料不打烊
Bydd cyfle i鈥檙 cyhoedd gael golwg ar gasgliadau arbennig Prifysgol 黑料不打烊 fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 26 Medi.
Mae digwyddiad Drysau Agored, yn rhoi cyfle i鈥檙 cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.
Bydd yr Archifdy ar agor gan arddangos detholiad o lawysgrifau yn dyddio鈥檔 么l i鈥檙 12fed ganrif. Cynhelir sgwrs gan yr Archifydd ar y casgliadau gan gynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb cyn ymweld ag arddangosfa 鈥榊 Cymry ym Mhatagonia鈥. Cynhelir y sgyrsiau 10.30yb -11.30yb a 12.00yp -1.00yp.
Dyma gyfle i weld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, Adeilad Brambell, sydd ddim ar agor i鈥檙 cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am yr anifeiliaid a鈥檙 planhigion sydd i鈥檞 gweld yno yn ogystal 芒 gofyn ambell i gwestiwn i鈥檙 arbenigwyr fydd ar gael. Bydd yr Amgueddfa Hanes Natur ar agor i鈥檙 cyhoedd rhwng 11.00yb a 3.00yp.
Bydd teithiau tywys hefyd yn cael eu cynnal gan dywyswr arbenigol o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg y Brifysgol. Mae uchafbwyntiau yn cynnwys celf a serameg yng Nghoridor Siambr y Cyngor a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes. Cynhelir y teithiau tywys o fynedfa Prif Adeilad y Celfyddydau am 12.30yp-1.30yp (Saesneg) a 2:30yp-3:30yp (Cymraeg).
Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor:
鈥淢ae'n bleser cael cymryd rhan yn Ddrysau Agored a rhoi cyfle i bobl weld y tu mewn i'n Prif Adeiladau a mwynhau cyfoeth ein casgliadau. Mae Drysau Agored yn ddigwyddiad gwych sydd yn rhoi cyfle arbennig i drigolion lleol ac ymwelwyr gael mwynhau a dysgu mwy am yr amrywiad helaeth o bethau sydd ar ddangos yn y casgliadau gan arbenigwyr o鈥檙 Brifysgol.鈥
Os oes gennych ddiddordeb mynychu鈥檙 sgyrsiau yn yr Archifdy neu fynd ar un o鈥檙 teithiau tywys, gofynnir i chi archebu lle ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 01248 383276 neu e-bostio e.w.simpson@bangor.au.uk ar gyfer yr Archifdy neu drwy ffonio 01248 353368 neu e-bostio amgueddfagwynedd@gwynedd.gov.uk ar gyfer y teithiau tywys.
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau eraill Drysau Agored ar draws Gwynedd a Chonwy yn ystod mis Medi, ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2015