Drysau鈥檔 agored i gasgliadau archifau ac amgueddfa Prifysgol 黑料不打烊
Bydd cyfle i鈥檙 cyhoedd gael golwg ar gasgliadau arbennig Prifysgol 黑料不打烊 fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 16 Medi.
Mae digwyddiad Drysau Agored, yn rhoi cyfle i鈥檙 cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.
Bydd yr adran Archifau a鈥檙 Casgliadau Arbennig y Brifysgol yn darparu gwledd o lawysgrifau ar gyfer ymwelwyr. Bydd cyfle i drafod yr amrywiaeth o gasgliadau archifol a gedwir gan y Brifysgol cyn cael eich tywys i Goridor Siambr y Cyngor i weld yr arddangosfa, 鈥淗edd Wyn鈥. Rhaid archebu lle oherwydd bod niferoedd yn gyfyngedig. Cynhelir y sesiwn Saesneg rhwng 10.00-11.00 a鈥檙 sesiwn Gymraeg rhwng 11.30-12.30.
Dyma gyfle i ymweld ag Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, Adeilad Brambell, sydd ddim ar agor i鈥檙 cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am yr anifeiliaid sydd i鈥檞 gweld yno yn ogystal 芒 gofyn ambell i gwestiwn i鈥檙 arbenigwyr fydd ar gael. Bydd yr Amgueddfa Hanes Natur ar agor i鈥檙 cyhoedd rhwng 11.00yb a 3.00yp.
Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Prif Adeilad y Celfyddydau yn cael eu harwain gan David Roberts, cyn gofrestrydd y Brifysgol a fydd yn siarad ar 鈥 鈥淐ofadail Parhaol 黑料不打烊鈥 : dyluniad a hanes Prif Adeilad y Brifysgol鈥. Bydd yn gyfle i ddysgu mwy ar gefndir sefydlu鈥檙 adeilad ac i ddeall mwy am y nodweddion pensaerniol. Cynhelir y teithiau tywys o fynedfa Prif Adeilad y Celfyddydau am 11.00yb-12.00yp (Saesneg) a 12:30yp-1:30yp (Cymraeg) a rhaid archebu lle ymlaen llaw.
Os oes gennych ddiddordeb mynychu鈥檙 sgyrsiau yn yr Archifdy neu fynd ar un o鈥檙 teithiau tywys, gofynnir i chi archebu lle ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 01248 383276 neu ebostio archives@bangor.ac.uk ar gyfer yr Archifdy neu drwy ffonio 01248 353368 neu e-bostio storiel@gwynedd.llyw.cymru ar gyfer y teithiau tywys.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2017