Duffy'n ymuno 芒'r Brifysgol i ddathlu llwyddiant myfyrwyr
DuffyBydd dros ddwy fil o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol 黑料不打烊 mewn deuddeg seremoni, i鈥檞 cynnal dros chwe diwrnod yr wythnos hon (9-15 Gorffennaf 2011). Bydd teuluoedd a chyfeillion yn ymuno 芒鈥檙 myfyrwyr wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant.
Hefyd yn ymuno 芒 hwy mewn sawl seremoni bydd unigolion sy鈥檔 derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol 黑料不打烊.
"Mae gan Brifysgol 黑料不打烊 draddodiad cryf o gydnabod cyraeddiadau dynion a merched o feysydd gwahanol drwy gyflwyno Cymrodoriaethau er Anrhydedd. Mae鈥檙 un yn wir eleni. Bydd ein Cymrodyr yn cyfrannu arbenigrwydd a chyfaredd at y seremon茂au, tra byddwn hefyd yn cydnabod llwyddiannau ein myfyrwyr," meddai Dr David Roberts, Cofrestrydd y Brifysgol.
Dyma fanylion y rhai sydd i鈥檞 hanrhydeddu:
Wedi graddio o Fangor, mae Paul Feeney bellach yn strategydd buddsoddi rhyngwladol blaenllaw gyda BNY Mellon Asset Management. Bydd yn cael ei dderbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am wasanaeth i鈥檙 diwydiant gwasanaethau ariannol. Bydd yr Athro Phil Molyneux, Pennaeth y Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a鈥檙 Gyfraith yn ei gyflwyno.
Mae鈥檙 gantores, Duffy i鈥檞 derbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am wasanaethau i gerddoriaeth. Enillodd Duffy Wobr Grammy am yr albwm lleisiol pop orau a thair gwobr Brit yn 2009. Hi yw鈥檙 gantores gyntaf o Gymru i gyrraedd rhif un yn y siartiau mewn 25 mlynedd. Aeth ei halbwm cyntaf Rockferry i rif un yn siartiau albwm Prydain yn 2008 gan werthu 1.7 miliwn o gop茂au. Mae wedi ymddangos yn ei ffilm gyntaf, Patagonia, yn ddiweddar. Ganwyd a magwyd Duffy yn Nefyn, Gwynedd. Bydd yn cael ei chyflwyno dan Dr Llion Jones.
Mae Rhys Jones, MBE yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i gerddoriaeth a鈥檙 gymuned, a bydd yn cael ei gyflwyno gan Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor yn y Brifysgol. Hyfforddodd Rhys Jones fel athro yn y Coleg Normal a bu鈥檔 athro cerddoriaeth a dirprwy bennaeth yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug. Mae鈥檔 adnabyddus fel athro a hyfforddwr, arweinydd, cyfeilydd a darlledwr. Mae wedi sefydlu ac arwain sawl c么r a pharti, yn enwedig Cantorion Gwalia a fu鈥檔 enwog drwy Gymru o鈥檙 50au hyd y 90au. Dyma鈥檙 to cyntaf y bydd tad a merch yn ddeiliaid Cymrodoriaethau er Anrhydedd, gan fod ei ferch, Caryl Parry Jones, eisoes yn Gymrawd i鈥檙 Brifysgol.
Bydd Yr Athro Laura McAllister, Athro Llywodraethu ym Mhrifysgol Lerpwl, ac awdurdod blaenllaw ar wleidyddiaeth Cymru, yn cael ei chyflwyno i鈥檞 derbyn fel Cymrawd er Anrhydedd gan Dr Nichola Callow o鈥檙 Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae鈥檙 Athro McAllister yn cael ei derbyn am wasanaeth i chwaraeon. Mae Laura McAllister hefyd yn gyn-chwaraewr p锚l-droed rhyngwladol i Gymru (24 o gapiau) ac yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru ac yn ymgynghorydd allanol i鈥檙 Brifysgol ar ei Strategaeth Chwaraeon a Hamdden.
Yr Athro Gwyn ThomasYn gyn fyfyriwr a chyn Athro Cymraeg yn y Brifysgol, bardd a beirniad llenyddol , bydd Yr Athro Gwyn Thomas yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i lenyddiaeth Cymru ac yn cael ei gyflwyno gan Bennaeth presennol Ysgol y Gymraeg, Yr Athro Peredur Lynch. Mae鈥檙 Athro Gwyn Thomas yn adnabyddus fel bardd a beirniad llenyddol a bu鈥檔 Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2006/7.
Bydd John Herbert, Iarll Powis, yn cael ei dderbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am ei wasanaeth i ysgolheictod ac astudiaethau llenyddol, a bydd yn cael ei gyflwyno gan Yr Athro Helen Wilcox o Ysgol y Saesneg. Mae Iarll Powis yn un o ddisgynyddion George Herbert, bardd a aned yng Nghymru, ac sy鈥檔 enwog am ei fugeilgerddi a barddoniaeth grefyddol o鈥檙 ail ganrif ar bymtheg. Mae hefyd yn un o ddisgynyddion llywydd cyntaf Prifysgol 黑料不打烊. Mae鈥檔 gyn-ddarlithydd ac ymchwilydd prifysgol, ac wedi gweithio鈥檔 helaeth gydag academyddion yn Ysgol y Saesneg y Brifysgol.
Julian Lewis JonesJulian Lewis Jones: Bydd yr actor ffilm a theledu a aned ar Ynys M么n yn cael ei dderbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am wasanaeth i ddrama. Mae wedi actio yn ffilm 2008 Clint Eastwood, Invictus, ac mewn amryw o ddram芒u teledu, yn cynnwys The Bill, Casualty, Holby City a Spooks - yn ogystal 芒鈥檙 gyfres Caerdydd a鈥檙 gyfres Tipyn o St芒d ar S4C.
C么r yn helpu鈥檙 Brifysgol i ddathlu canmlwyddiant
Bydd un o Gorau Meibion hynaf y wlad, C么r y Penrhyn, yn ymuno 芒 staff a myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 i ddathlu canmlwyddiant agor Prif Adeilad y Brifysgol. Bydd yn ganrif i鈥檙 diwrnod ers i Frenin Si么r V agor yr adeilad newydd trawiadol sy鈥檔 eistedd ar ael y bryn uwchben dinas 黑料不打烊. Fore Iau, 14 Gorffennaf, bydd C么r y Penrhyn yn rhoi perfformiad arbennig yn ystod seremoni raddio, lle bydd dros 200 o fyfyrwyr yn graddio.
Meddai Cofrestrydd Prifysgol 黑料不打烊, Dr David Roberts:
鈥淢ae鈥檙 cyswllt rhwng chwarelwyr gogledd orllewin Cymru a sefydlu prifysgol ym Mangor yn un o鈥檙 nodweddion mawreddog ac ysbrydoledig yn hanes y Brifysgol. Cyfrannodd chwarelwyr Bethesda a nifer o weithwyr eraill o ogledd Cymru, yn aml o鈥檜 cyflog prin, er mwyn cefnogi ymgyrch i gael addysg uwch yng ngogledd Cymru, ac mae鈥檔 briodol felly bod C么r y Penrhyn am ein helpu i ddathlu鈥檙 canmlwyddiant penodol yma.鈥
Bydd C么r y Penrhyn yn perfformio tri darn yn ystod y Seremoni:
- Y Bryniau Melynion gan Gareth Glyn (geiriau gan Ieuan Wyn)
- Benedictus gan Robat Arwyn
- Gwahoddiad, trefniant gan John Tudor Davies
Arweinydd C么r y Penrhyn yw Owain Arwel Davies, sy鈥檔 hanu o Ddyffryn Ogwen, ac a raddiodd o Brifysgol 黑料不打烊, sydd bellach yn bennaeth cerddoriaeth yn Ysgol Tryfan, 黑料不打烊. Y gyfeilyddes fydd Olwen John, brodor o Ynys M么n, a chyn fyfyrwraig Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd.
Hefyd yn ystod y seremon茂au graddio bydd pedwar aelod o staff dysgu鈥檙 Brifysgol yn derbyn Cymrodoriaethau Dysgu. Mae'r wobr yn cael ei rhoi i ddarlithydd sy鈥檔 amlwg wedi cyfrannu'n fawr at addysgu myfyrwyr a gofalu amdanynt.
Mae staff yn cael eu henwebu gan aelodau staff a myfyrwyr.
Yn derbyn y Cymrodoriaethau eleni mae: Mrs Anne McLaren, Ysgol y Gyfraith, Dr Rosanna Robinson, Ysgol Gwyddorau Biolegol a Dr Jim Bennell Ysgol Gwyddorau Eigion a Dr Fay Short, Ysgol Seicoleg.
Bydd straeon am ein myfyrwyr sy鈥檔 graddio yn ymddangos yma yn ystod yr wythnos:
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2011