Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am beth sy鈥檔 dod nesaf!
Efallai mai hon yw eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol- neu wythnos gyntaf y flwyddyn academaidd newydd- ond peidiwch 芒 gadael i hynny鈥檆h rhwystro rhag meddwl am eich gyrfa ac am eich opsiynau o ran gwaith. Does dim rhaid i chi setlo鈥檙 cwbl ar unwaith- ond gall swydd ran amser wneud lles i鈥檆h cyfrif banc a gwella鈥檆h sgiliau cyflogadwyedd ar yr un pryd.
Dim ond un o鈥檙 opsiynau fydd ar gael yn y Diwrnod Agored Gyrfaoedd yn Neuadd Rathbone rhwng 1.00-4.00 ddydd Mercher 29 Medi yw hwnnw.
Os nad swydd ran amser yw鈥檙 peth i chi, cewch wybod hefyd am y gweithdai sgiliau fydd yn cael eu cynnal neu ddysgu am gyfleoedd lleoliad a hyfforddiant fydd ar gael ar 么l i chi raddio, yn ogystal 芒 chael rhywun i daro golwg ar eich CV.
Bydd busnesau lleol yn y digwyddiad hefyd, ac yn cynnig swyddi rhan amser yn ogystal 芒 thrafod cyfleoedd yn y dyfodol.
Ydych chi wedi ystyried rhedeg eich busnes eich hun erioed? Cewch drafod 芒 chynghorydd mentora busnes i gael gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael i entrepreneuriaid sy鈥檔 dechrau busnes.
Meddai Lynn Goodhew, Pennaeth Gyrfaoedd: 鈥 Dyma鈥檙 digwyddiad cyntaf mewn blwyddyn brysur yn ein lleoliad newydd ar Ffordd y Coleg. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal pob math o weithdai a digwyddiadau yn ogystal 芒 darparu鈥檙 cyngor gyrfaol a chyfleoedd arferol.鈥
Anfonwch e bost at careers@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382071 am ragor o fanylion.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2010