Dyfarnu Medal Cwmni鈥檙 Brethynwyr i fyfyrwraig o Fangor

Elina Hamilton gyda Mr Anthony Walker, Y Meistr
Ar 1 Mai 2012, derbyniodd , myfyrwraig PhD yn ymchwilio i theori cerddoriaeth ganoloesol, y fedal Efydd am lwyddiant 么l-radd neilltuol. Mae鈥檙 wobr fawreddog hon yn un o chwech yn unig i鈥檞 dyfarnu erioed. Cyflwynwyd hi ar 么l i Elina gael ei henwebu gyda 18 o ymgeiswyr eraill ar draws y Brifysgol. Roedd maen prawf ar gyfer y wobr yn seiliedig ar lwyddiant academaidd ac ymgysylltiad 芒鈥檙 gymuned academaidd, ym Mhrifysgol 黑料不打烊 a hefyd yn rhyngwladol. Roedd ystyriaethau鈥檔 cynnwys ymgeiswyr a oedd wedi rhoi cyfraniad arbennig o dda yn academaidd, yn ddiwylliannol neu鈥檔 gymdeithasol trwy ysgolheictod, effaith eu hymchwil, cynhaliaeth fugeiliol a mentora, cymorth i recriwtio, helpu鈥檙 Brifysgol i wella ei henw da, neu ennill cyhoeddusrwydd gwych i Brifysgol 黑料不打烊.
Mae Elina hefyd wedi ennill Ysgoloriaeth Ymchwil Ddathlu ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Ar hyn o bryd, mae pwnc ei hymchwil PhD yn edrych ar theori cerddoriaeth ganoloesol. Er bod cynnwys traethodau theoretig yn wybyddus ymysg cerddoregwyr, ni fuwyd erioed yn archwilio eu defnydd gwirioneddol o fewn cyd-destun hanesyddol ac addysgol. Gan ddwyn y teitl 鈥Teaching the Old and New: Didactic Applications of Fourteenth-Century English Music Theory鈥, bu ei thraethawd yn canolbwyntio鈥檔 bennaf ar De speculatione musica, gwaith o eiddo Walter o Evesham (Walter Odington).
Meddai Dr Christian Thomas Leitmeir, goruchwyliwr Elina yn yr Ysgol Cerddoriaeth:
鈥淩wy鈥檔 hynod o falch fod Elina wedi ennill y wobr fawreddog hon, yr oedd yn ei haeddu am gymaint o resymau. Er ei bod yn dal yn fyfyrwraig PhD, mae hi wedi cyfrannu mewn modd sylweddol at ysgolheictod, trwy ei hymchwil ei hun a hefyd wrth drefnu cynadleddau. Heblaw hynny, mae hi wedi bod yn athrawes ymroddedig, sy鈥檔 cael llawer o barch gan ein myfyrwyr a hefyd yn boblogaidd iawn. Mae鈥檔 briodol iawn fod elusen sydd 芒鈥檌 gwreiddiau yn yr Oesoedd Canol yn adnabod dawn cyw ysgolhaig ym maes yr oesoedd canol.鈥
Mae Cwmni鈥檙 Brethynwyr yn gild canoloesol o Lundain, ac yn un o鈥檙 deuddeg cwmni lifrai cyntaf a adwaenir fel The Great Twelve. Heddiw, corff elusennol yn bennaf yw鈥檙 cwmni, a chanddo gysylltiadau agos 芒 sawl sefydliad addysgiadol. Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn un o 17 o sefydliadau, yn cynnwys Coleg Penfro, Caergrawnt, Y Frenhines Fair, Prifysgol Llundain, a Choleg y Santes Ann, Rhydychen, y mae鈥檙 cwmni鈥檔 gysylltiedig 芒 hwy fel sefydliad elusennol.
Ers mwy na chan mlynedd, mae鈥檙 Cwmni鈥檔 gysylltiedig 芒 Phrifysgol 黑料不打烊, ar y cychwyn wrth roi grantiau sylweddol tuag at godi rhai o brif adeiladau鈥檙 Brifysgol, yn cynnwys y llyfrgell, y labordai gwyddoniaeth a鈥檙 Adran Peirianneg Electronig. Heddiw, trwy Gronfa Addysgol Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru, mae鈥檙 Cwmni鈥檔 cefnogi myfyrwyr is-raddedig ac 么l-raddedig mewn amryw o adrannau a chyfadrannau, ac yn cyfrannu at gronfa galedi 么l-radd sy鈥檔 darparu rhywfaint o gymorth tuag at gostau byw unigolion.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2012