Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit 黑料不打烊
Bob blwyddyn, mae Prifysgol 黑料不打烊 yn cefnogi myfyrwyr talentog ym maes chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio am radd mewn unrhyw bwnc.
Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon. Eu pwrpas yw helpu myfyrwyr dawnus o safon uchel i gyfuno eu hastudiaethau academaidd 芒鈥檜 perfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial.
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol: 鈥淩ydym yn falch iawn o gefnogi nifer o athletwyr hynod dalentog ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn yr offer diweddaraf er mwyn denu'r athletwyr gorau i'r brifysgol. Bydd yr athletwyr hefyd yn elwa o arbenigedd staff yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
"Ers i鈥檙 Brifysgol ddatblygu partneriaeth gyda 6 blynedd yn 么l, mae chwaraewyr rygbi dawnus a nodwyd gan RGC wedi gallu symud ymlaen i addysg uwch a pharhau i chwarae rygbi ar lefel uchel, a diolch i鈥檙 Ysgoloriaethau Chwaraeon, maent yn gallu aros yng ngogledd Cymru. Mae'r bartneriaeth hon wedi parhau i ddatblygu gan ein bod bellach yn cynnig ysgoloriaethau i chwaraewyr RGC benywaidd."
Eleni gwelwyd 14 o fyfyrwyr yn derbyn ysgoloriaethau gwerth cyfanswm o 拢25,000 ar gyfer ystod eang o chwaraeon:
James Andrew, 18, o Lanfair-pwll 鈥 Rygbi
Michael Farmer, 20, o Gaerffili 鈥 Codi pwysau
Catrin Jones, 20, o Fangor 鈥 Codi pwysau
Brea Leung, 27, o Gaernarfon 鈥 Rygbi
Chris Mann, 19, o Rhuthun 鈥 Seiclo
Molly Nixon, 19, o Southport 鈥 Hwylio
Octavia Owen, 20, o Gilgwri 鈥 Hwylio
Sam Rogers, 20, o Wrecsam 鈥 Rygbi
Theo Schoebel, 20, o Ffrainc 鈥 Karate
Joe Steward, 23, o Middleton, Manceinion - Trawsgwlad
Flo Tilley, 22, o Nottingham 鈥 Dringo
Shengjie Wang, 23, o Tsieina 鈥 Taekwondo a Kungfu
Joshua Whitehouse, 18, o鈥檙 Trallwng 鈥 Jiwdo
Aled Williams, 18, o Lanrug 鈥 P锚l-droed
Meddai Catrin Jones, Uwch Bencampwraig Codi Pwysau Cymru: "Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi fy nghefnogi ers nifer o flynyddoedd. Derbyniais fwrsariaeth leol i ddechrau cyn cael yr Ysgoloriaeth Chwaraeon fel myfyriwr prifysgol. Mae'r cyfleusterau chwaraeon ym Mangor o'r radd flaenaf ac wedi fy helpu i ddatblygu fy hyfforddiant yn aruthrol ar hyd y blynyddoedd. Mae'r staff yng Nghanolfan Brailsford ac yn yr Ysgol Seicoleg wedi bod yn gefnogol iawn dros y blynyddoedd."
Meddai Octavia Owen: "Mae'r Ysgoloriaeth Chwaraeon wedi rhoi'r cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau hwylio a鈥檓 ffitrwydd yn gyffredinol, gan ei wella'n fawr. Mae wedi caniat谩u i mi gystadlu mewn mwy o ddigwyddiadau cenedlaethol sydd wedi fy ngalluogi i wella fy safle rhyngwladol.鈥
Mae'r rhaglen ysgoloriaethau鈥檔 rhan o ymrwymiad ehangach i hybu proffil ac enw da'r Brifysgol trwy chwaraeon.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2020