Dyma Sh芒n mewn Cwmni Da!
Mae myfyrwraig o Brifysgol 黑料不打烊 wedi cael cyfle gwych yn ddiweddar i weithio ar gyfres teledu ar gyfer S4C. Mae Sh芒n Pritchard sydd eisoes wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi derbyn ysgoloriaeth i astudio ar gyfer PhD mewn partneriaeth a chwmni cynhyrchu teledu, Cwmni Da. Diolch i鈥檙 ysgoloriaeth arbennig hwn, caiff Sh芒n y cyfle i weithio ar nifer o brosiectau cyffrous, megis 鈥楧yma Fi鈥.
Cyfres aml-blatfform yw 鈥楧yma Fi鈥 sy鈥檔 datgelu canlyniadau holiaduron a ddosbarthwyd i bobl ifanc Cymru. Er, nid dyma鈥檙 tro cyntaf i Sh芒n gael cyfle i weithio ar y prosiect unigryw hwn. Yn dilyn llwyddiant y gyfres 鈥楧yma Fi鈥 a ddarlledwyd ar S4C yn 2014 a鈥檙 rhaglen ddilynol 鈥楧yma Fi - Eto鈥 a ddarlledwyd ar gychwyn y flwyddyn, penderfynodd Cwmni Da i ail gydiad yn y prosiect cyffrous hwn flwyddyn yma a chreu holiadur newydd. Y bwriad y tro hwn, oedd mireinio ffocws yr holiadur a dodi pwyslais ar un ymagwedd benodol, sef 鈥榚mosiynau ac iechyd meddwl鈥 i ffurfio prosiect 鈥楧yma Fi - 2015鈥.
Yn 么l Si芒n Boobier, cynhyrchydd a chyfarwyddwr gyda Chwmni Da:
鈥淓leni, emosiynau ac iechyd meddwl fydd y gyfres deledu yn ei drafod. "Hunlun" neu "selfie" sydd yma o bobl ifainc Cymru, gan mai eu hatebion nhw sy'n creu'r rhaglenni. Cawn eu gweld yn trafod eu teimladau, o'r dwys i'r digri, gyda gonestrwydd sy'n creu darlun llawn.鈥
Prif ddyletswydd Sh芒n oedd dadansoddi鈥檙 data meintiol yn deillio o鈥檙 holiaduron i ddarganfod ystadegau diddorol sy鈥檔 sylfaen i鈥檙 gyfres.
Dywed Sh芒n; 鈥淢ae鈥檙 ysgoloriaeth KESS wedi fy ngalluogi i weithredu dulliau ymchwil gymdeithasegol mewn modd ymarferol a phwrpasol o fewn byd gwaith. Mae cyd weithio gyda Chwmni Da ar brosiectau fel 鈥楧yma Fi鈥 wedi bod yn gyfle gwych i roi llwyfan i waith cymdeithasegol. Braint oedd cael bod yn rhan o鈥檙 prosiect cyffrous hwn unwaith eto flwyddyn yma!鈥
Yn 么l Dr Cynog Prys, goruchwyliwr Sh芒n Pritchard a darlithydd yn :
鈥淢ae鈥檙 ysgoloriaeth KESS wedi cynnig cyfle gwych i鈥檙 Ysgol Gwyddorau Cymdeithas gyd weithio gyda chwmni adnabyddus sy鈥檔 cyfrannu cymaint i fwrlwm diwylliannol ac economaidd lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Roedd y bartneriaeth wreiddiol yn 2014 mor llwyddiannus nes bod Ysgol Gwyddorau Cymdeithas a Chwmni Da yn awyddus i barhau gyda鈥檙 trefniant am ddwy flynedd arall. Yn 2016 byddwn yn cydweithio ar bedwaredd raglen gyda Chwmni Da. Byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid rhyngwladol ledled Ewrop ar gyfer y rhaglen hon ac yn defnyddio holiadur i gasglu gwybodaeth am fywyd yn ein cymdeithasau cyfoes鈥.
Mae dal posib i Gymry ifanc rhwng 16 ac 18 oed barhau i gymryd rhan yn yr holiadur anferth hwn trwy ymweld 芒 www.dymafi.tv. Darlledwyd rhaglen gyntaf y gyfres yn rhan o 鈥榃ythnos Dyma Fi鈥 sy鈥檔 cychwyn darlledu ar Dachwedd 16 am 7.55pm a 8.25pm, ac yn nos weithiol drwy鈥檙 wythnos, neu ar
Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil Sh芒n Prichard dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS II yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol 黑料不打烊 ar ran y sector AU yng Nghymru. . Fe'i cyllidir KESS II yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi鈥檜 lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a鈥檙 Cymoedd). Mae elfennau鈥檙 Meistri Ymchwil a PhD wedi鈥檜 cyfuno 芒 rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster 脭l-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS II yn parhau tan 2022, ac yn darparu 600+ o leoedd PhD a Meistr Ymchwil ar draws Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2015