Dysgu am galigraffeg
Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae鈥檙 Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd.
Un o'r celfyddydau mwyaf nodedig yw caligraffeg Tsieineaidd. Mae myfyrwyr ac eraill eisoes wedi cael cyfle i ddysgu am galigraffeg Tsieineaidd a rhoi cynnig ar ysgrifennu yn yr arddull Tsieineaidd unigryw. Gweler Sefydliad Confucius yma i weld yr adroddiad a lluniau.
Bydd cyfleoedd eto i ddysgu am galigraffeg Tsieineaidd ddydd Mawrth, 29 Ionawr. Er mwyn cael gwybod am ddigwyddiadau diwylliannol eraill, cadwch lygad ar wefan Sefydliad Confucius ac edrychwch o dan Digwyddiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012