Edrych ar sut mae ein hymennydd yn asesu 鈥榖argen鈥
Dr Paul Mullins a Dr Helen Morgan o Ysgol Seicoleg y Brifysgol yn gosod siopiwr yn y sganiwr fMRIMae鈥檔 ymddangos nad ydym mor dda am adnabod 鈥榖argen鈥 a manteisio ar gynigion archfarchnadoedd ag yr ydym yn credu. Dyna awgrym canlyniadau cynnar astudiaeth a fu鈥檔 archwilio ymennydd siopwyr wrth iddynt ymgymryd 芒 thasg 鈥榮iopa鈥.
Sganiwyd ymennydd y 鈥榮iopwyr鈥 i brofi eu hymatebion i hyrwyddiadau a chynigion arbennig wrth iddynt ymgymryd 芒 thasg 鈥榮iopa鈥 rithwir fel rhan o broject arloesol mawr gan SBXL, arbenigwyr ymddygiad siopa mwyaf blaenllaw Ewrop, ac adnabyddus Prifysgol 黑料不打烊.
Meddai Dr Paul Mullins, uwch darlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol 黑料不打烊:
鈥淩oeddem yn gynhyrfus iawn am y syniad o gynnal yr ymchwil hon. Mae defnyddio system sganio 3T MRI'r Brifysgol yn y ffordd hon wedi鈥檔 galluogi ni i ymchwilio i sail niwral gwneud penderfyniadau. Mae ymchwil flaenorol wedi dangos nad yw pobol mor dda am wneud penderfyniadau rhesymegol ag y byddent yn disgwyl. Maen nhw鈥檔 aml yn defnyddio eu greddf a 鈥榙yfalu gwybodus鈥 i i bwyso a mesur penderfyniadau. Rydym yn gobeithio trwy ddefnyddio technegau delweddu鈥檙 ymennydd, y gallwn ddeall yn well sut y mae鈥檙 ymennydd yn ymateb i gynigion arbennig a sut y gall hyn effeithio ar ein penderfyniadau. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i ni ymchwilio i sut yr ydym yn dod i benderfyniadau mewn sefyllfa go iawn.
Cafodd gwirfoddolwyr sgan ar eu hymennydd mewn sganiwr MRI 3T meddygol wrth iddynt gyflawni tasg siopa mewn archfarchnad rithwir. Gofynnwyd iddynt 鈥榖rynu鈥 bwyd ar gyfer parti ac arbed cymaint o arian 芒 phosib. Dangoswyd delweddau o nwyddau generig, ynghyd a rhai 鈥榗ynigion arbennig鈥 iddynt a gofyn iddynt ddewis faint i鈥檞 brynu cyn symud ymlaen at yr eitem nesaf. Roedd y cynigion yn cynnwys 鈥榙isgownt鈥, cynigion i brynu mwy nag un fel dau am 拢2 neu dri am 拢4 a 鈥榗hynigion arbennig鈥 heb ddim manylion am faint o arian fyddai鈥檔 cael ei arbed. Roedd rhai o鈥檙 cynigion yn wael- yn ddrutach mewn gwirionedd na鈥檙 pris gwreiddiol. Roedd y gwirfoddolwyr yn cynnwys merched a dynion o bob oedran, er bod ychydig mwy o ferched na dynion wedi cymryd rhan.
Esiampl o鈥檙 canlyniadau fMRI sy鈥檔 cael eu dal a鈥檜 dadansoddiEr bod y seicolegwyr yn dal i ddadansoddi鈥檙 data a gasglwyd, mae eu canfyddiadau cynnar yn dangos rhai pethau diddorol.
Mae Mullins yn parhau:
鈥淢ae鈥檔 ymdddangos nad ydym cystal am ddewis bargeinion ag y byddem yn tybio, efo鈥檙 siopwyr yn yr arbrawf yn dewis dim ond 60% ar gyfartaledd o gynigion da dros rhai gwael. Canfuwyd hefyd bod oed yn effaith negyddol gref ar y gallu i ddewis cynigion da. Rydym yn gweld hyn yn ddiddorol a hoffem wneud rhagor o waith i ganfod pam fod hyn yn wir.鈥
Mae data delweddu ymennydd y t卯m yn dangos fod dewis cynnig da dros un gwael yn tanio rhwydwaith eang o fewn yr ymennydd.
Eglurodd Dr Helen Morgan, aelod o鈥檙 T卯m: 鈥淭ydi hyn ddim mor annisgwyl- mae llawer yn digwydd wrth i ni wneud rhywbeth fel hyn, ond mae鈥檔 braf gweld hyn yn cael ei adlewyrchu gan ein data. Mae ein data hefyd yn cytuno efo ymchwil flaenorol sydd yn awgrymu, wrth i gynigion neu benderfyniadau fynd yn fwy cymhleth, bod ein hymennydd, yn lle gweithio pethau allan, yn cymryd y 鈥檉fordd agosaf鈥 ac yn dyfalu ydy cynnig yn un da. Yn ddiddorol, mae ein hastudiaeth yn hefyd yn dangos fod pobol yr un mor dda am ddewis y cynigion da cymhleth 芒鈥檙 rhai da syml, gan awgrymu bod y dull dyfalu鈥檙 un mor effeithiol mewn rhai achosion 芒鈥檙 dull 鈥榞weithio allan鈥.
Nododd Dr Emily Cross, un arall o鈥檙 prif ymchwilwyr:
鈥淢antais defnyddio MRI i ddelweddu鈥檙 ymennydd wrth iddo wneud penderfyniadau siopa yw ei bod yn ein galluogi i weld sut mae鈥檙 holl ymennydd yn ymateb, gan gynnwys y rhannau 鈥榙yfnach鈥, fel y rhai sy鈥檔 gysylltiedig ag emosiwn ac awydd. Mae hyn yn ein galluogi i ddod i ddeall mwy am yr hyn sydd yn gwneud cynnig yn apelgar: mewn rhai achosion mae鈥檙 dewis i weld yn fwy rhesymol ac mewn achosion eraill gallwn weld y cylchedau emosiynol yn dod yn rhan o鈥檙 broses gwneud penderfyniad.鈥
Mae鈥檙 T卯m yn cynllunio dadansoddiad dyfnach o鈥檙 data ac yn edrych ymlaen at y canfyddiadau fydd yn dod yn ei sgil.
Ychwanegodd yr Athro James Intriligator, sy鈥檔 rhedeg rhaglenni Meistr Seicoleg Defnyddwyr yn yr Ysgol: 鈥淓r ein bod wedi defnyddio tasgau gwneud penderfyniadau traddodiadol i astudio sut mae鈥檙 defnyddiwr yn gwneud penderfyniadau ers rhai blynyddoedd, rydym yn gobeithio y bydd astudiaethau o鈥檙 math yma鈥檔 dweud llawer wrthym am sut yr ydym yn ymateb i wybodaeth sy鈥檔 cystadlu am ein sylw yn y byd sydd o鈥檔 gwmpas. Yn benodol mae gennym ddiddordeb mewn sut y mae ffactorau yr ydym yn ymwybodol ohonynt yn ein hisymwybod yn medru trechu dewis ar sail resymol. Rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth efo SBXL yn arwain at ymchwil bellach yn y maes.鈥
Noddwyd yr astudiaeth hon yn fasnachol, ac mae鈥檔 cynnig sawl mantais i ymchwil y gr诺p ar ben y manteision sy鈥檔 ymwneud yn uniongyrchol 芒 gwybodaeth am sut yr ydym yn delio 芒 chynigion cystadleuol. Mae canolfannau sganio MRI yn adnoddau drud i Brifysgolion eu cynnal ac mae gwneud gwaith masnachol yn helpu i dalu鈥檙 costau cynnal, ac yn caniat谩u i鈥檙 ysgolheigion ariannu gwaith clinigol sylfaenol. Mae ymchwil o鈥檙 math yma hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ymchwil yr Ysgol fagu profiad, gan ddysgu sut y gall cymhwyso鈥檙 damcaniaethau a鈥檙 technegau y maent yn dysgu ar eu cyrsiau mewn cyd-destun real. Er enghraifft, mae鈥檙 Ysgol yn cynnig Gradd Meistr mewn Niwroddelweddu ac un mewn Seicoleg Defnyddwyr. Gall myfyrwyr ar y naill gwrs a鈥檙 llall elwa lawer o gymryd rhan mewn astudiaethau o鈥檙 math hwn, gan ennill profiad uniongyrchol nid yn unig o dechnegau niwroddelweddu ond o sut y gellir defnyddio eu hymchwil yn y byd go iawn. Mae hyn yn agwedd lai amlwg ar astudiaethau o鈥檙 math hwn ond nid yw鈥檔 llai pwysig.
Dywedodd Phillip Adcock, Rheolwr Gyfarwyddwr SBXL, bod y sganiwr yn ffordd wych o grynhoi tystiolaeth ffisegol a allai gefnogi canfyddiadau ymchwil eraill.
"Rydym yn gwybod o ymchwil SBXL flaenorol bod yr ymennydd yn ymddwyn yn afresymegol wrth wynebu gormodedd o wybodaeth, sef profiad arferol siopwyr mewn archfarchnad. Mae ymchwil flaenorol wedi dangos i ni fod bron i 20 y cant o siopwyr yn debygol o roi cynigion arbennig yn eu basged hyd yn oed os ydynt yn ddrutach na'r nwyddau arferol, ac rydym yn gwybod bod bron i hanner siopwyr yn anwybyddu cynigion 鈥漰rynu un ac yn un am ddim鈥 ac yn dewis cymryd un yn unig. Nawr mae gennym ffordd ddibynadwy a gwyddonol o ddilysu鈥檙 ymchwil hon a deall yn union beth sy'n digwydd yn yr ymennydd wrth wneud y siopa wythnosol ," meddai.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2013