Efrydiaeth Ddoethurol AHRC mewn Cerddoriaeth
Mae鈥檔 bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol 黑料不打烊 gynnig Efrydiaeth dan nawdd AHRC ar gyfer astudiaeth PhD mewn cerddoriaeth, yn cychwyn ym Medi 2013. Mae鈥檙 efrydiaeth yn cynnwys ffioedd Cartref/UE yn ogystal 芒 grant cynnal di-dreth ar gyfradd gyfredol Cynghorau Ymchwil y DU, sef 拢13,590).
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer yr holl brojectau doethurol sy鈥檔 dod o fewn y grwpiau ymchwil sefydledig neu gylch gorchwyl diddordebau ymchwil y staff, yn cynnwys cerddoreg, cyfansoddi, cyfansoddi electroacwstig, celfyddydau sonig, a pherfformio.
Ymgeisio
Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno鈥檙 canlynol:
- Ffurflen gais ar-lein am y rhaglen PhD
Dylech gyflwyno enghreifftiau o鈥檆h gwaith blaenorol i ategu eich cais, fel y bo鈥檔 briodol. - Cynnig ar gyfer y project doethurol arfaethedig (hyd at 2,000 o eiriau, fel dogfen Word neu pdf, i鈥檞 anfon at c.leitmeir@bangor.ac.uk ). Dylai hwn ymdrin 芒鈥檙 agweddau canlynol:
(a) cwestiwn ymchwil
(b) cyd-destun y cwestiwn o ran ymchwil
(c) dull
(d) profiad yn y maes a pharodrwydd ar gyfer y dasg
(e) y cyfraniad at wybodaeth a dealltwriaeth y disgwylir iddynt ddeillio o鈥檙 project
(f) cyswllt/ cysylltiadau 芒鈥檙 amgylchedd ymchwil a/neu arbenigedd staff ym Mangor
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 3 Mai 2013
Rydym yn disgwyl cyfweld 芒鈥檙 ymgeiswyr ar y rhestr fer yn yr wythnos yn dechrau ar 20 Mai.
Dylech gyfeirio ymholiadau at:
Dr Christian Leitmeir, Cyfarwyddwr Astudiaethau 脭l-radd (c.leitmeir@bangor.ac.uk)
Cewch fwy o wybodaeth yma:
Mae'r Ysgol Cerddoriaeth yn bwriadu cyhoeddi ysgoloriaeth arall cyn hir, a fydd yn agored i ymgeiswyr oddi allan i鈥檙 UE hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2013