Ehangwch eich Sgiliau
Paulina MarekFel y bydd mwy a mwy o bobl yn graddio bob blwyddyn gyda graddau, ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddai鈥檔 gwneud i鈥檆h cais chi am swydd sefyll allan yng nghanol pentwr o ffurflenni cais? Pam na wnewch chi gyfuno'ch gradd Busnes gydag iaith Ewropeaidd? Nid oes arnoch angen cael TGAU na Lefel A mewn iaith i astudio am radd Busnes ar y cyd gydag iaith ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Mae ein Hysgol Ieithoedd Modern yn cynnig cyrsiau iaith i ddechreuwyr a rhai canolradd yn arbennig ar gyfer myfyrwyr cyd-anrhydedd sy鈥檔 astudio yn Ysgol 黑料不打烊 黑料不打烊. Gellwch ddewis o Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Eidaleg.
Mae Paulina Marek ar ei blwyddyn olaf o radd BA Marchnata gyda Ffrangeg. Mae hi鈥檔 egluro pam y penderfynodd ddewis yr opsiwn hwn.
鈥淒ewisais astudio marchnata gyda Ffrangeg yn bennaf gan fod gennyf ddiddordeb yn y ddau bwnc ac nad oeddwn eisiau rhoi鈥檙 gorau i鈥檙 naill na鈥檙 llall! Rwy鈥檔 credu鈥檔 gryf fod cyfuno eich gradd gydag iaith yn rhywbeth fydd yn ddefnyddiol iawn mewn bywyd. Bydd yn eich galluogi i gyfathrebu鈥檔 fwy hyderus pan fyddwch yn teithio, a bydd yn cynyddu eich siawns o weithio i gwmni rhyngwladol, neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun mewn gwlad arall. Gall meddu ar gefndir busnes ac iaith ychwanegol eich helpu gyda sgiliau ymarferol fel gwneud ymchwil i鈥檙 farchnad, creu cynllun busnes, rheoli a threfnu. Bydd cyfuno鈥檙 galluoedd yma鈥檔 rhoi mwy o siawns i mi gael swydd yn y dyfodol. Buaswn yn ei argymell i bawb!鈥
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2011