Ehangwch eich sgiliau
Fel y bydd mwy a mwy o bobl yn graddio bob blwyddyn gyda graddau, ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddai鈥檔 gwneud i鈥檆h cais chi am swydd sefyll allan yng nghanol pentwr o ffurflenni cais? Pam na wnewch chi gyfuno'ch gradd yn y Gyfraith gydag iaith Ewropeaidd? Nid oes arnoch angen cael TGAU na Lefel A mewn iaith i astudio am radd yn y Gyfraith ar y cyd gydag iaith ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Mae ein Hysgol Ieithoedd Modern yn cynnig cyrsiau iaith i ddechreuwyr a rhai canolradd yn arbennig ar gyfer myfyrwyr cyd-anrhydedd sy鈥檔 astudio yn Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊. Gellwch ddewis o Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Eidaleg. Mae pob gradd y Gyfraith gydag Ieithoedd yn rhaglenni 4 blynedd ac maent yn cynnwys blwyddyn dramor yn y drydedd flwyddyn.
Mae Claire Hughes ar ei phedwaredd flwyddyn, sef ei blwyddyn olaf, o radd LLB yn y Gyfraith gyda Ffrangeg. Treuliodd ei thrydedd flwyddyn yn Toulouse, Ffrainc. Dyma鈥檌 hanes hi...
鈥淢ae鈥檙 Gyfraith yn ddiwydiant cystadleuol iawn, ac mae galw mawr am gyfreithwyr gyda sgiliau ieithyddol
ychwanegol, yn arbennig gyda thwf yr Undeb Ewropeaidd a sut mae鈥檔 effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Drwy ddewis astudio鈥檙 Gyfraith gyda Ffrangeg, rydw i wedi cael golwg fanwl iawn yn awr ar system gyfreithiol arall. Mae hyn nid yn unig yn fy ngwneud yn fwy gwybodus, ond hefyd yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i mi o鈥檔 system ein hunain, ac mae cael system arall i鈥檞 chymharu wedi ei gwneud yn haws i mi ddychmygu sut y mae i gyd yn gweithio ac yn cysylltu 芒鈥檌 gilydd.
鈥淭reuliais fy mlwyddyn dramor yn Toulouse, Ffrainc. Mae hi wedi bod yn un o flynyddoedd mwyaf rhyfeddol fy mywyd. Dechreuais wneud ffrindiau Ffrengig a oedd bob amser yn fodlon helpu ac ar 么l 6 wythnos o fynd i Ysgol y Gyfraith Ffrainc, roeddwn i鈥檔 darllen ac yn ysgrifennu testunau Ffrangeg manwl. Mae byw dramor wedi newid y ffordd yr ydw i鈥檔 edrych ar bopeth. Mae wedi newid fy hunaniaeth, rydw i鈥檔 teimlo鈥檔 fwy Ewropeaidd, gyda mwy o feddwl agored, yn fwy diwylliedig, yn fwy gwybodus, ac rydw i鈥檔 rhugl yn y Ffrangeg. Mi wnaeth y trefnwyr oedd yn edrych ar ein holau fynd 芒 ni ar nifer o dripiau sg茂o, i Barcelona, Paris ac atyniadau eraill i dwristiaid, felly nid gwaith oedd y cyfan!
Yr uchafbwynt oedd cael y cyfle i gael fy nhrwytho鈥檔 llwyr mewn diwylliant arall, dod yn rhugl yn Ffrangeg a gwneud ffrindiau o bob rhan o鈥檙 byd.
Fy nod yw dod yn gyfreithiwr ym maes cyfraith cystadlu'r Undeb Ewropeaidd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2011