Ei gerddoriaeth yn creu awyrgylch 鈥榚pig鈥 ar y sgrin
Rhaglen llawn drama a chynnwrf fel yr X Factor oedd yn nychymyg y cyfansoddwr Owain Llwyd, wrth gyfansoddi cerddoriaeth epig ar gyfer y cyfryngau- ac roedd yn llygaid ei le i wneud hyn, gan fod y rhaglen wedi dewis a defnyddio鈥檌 gerddoriaeth.
Y cyfansoddwr a darlithydd, Owain Llwyd
Mae鈥檔 ddigon bosib eich bod chithau wedi clywed cyfansoddiadau eraill gan y cyfansoddwr, sydd hefyd yn darlithio yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol 黑料不打烊. Mae ei gyfansoddiadau wedi鈥檜 defnyddio ar raglenni hynod boblogaidd fel Top Gear, Countryfile a Timewatch. Mae ei gyfansoddiadau hefyd wedi鈥檜 defnyddio mewn gwledydd eraill; ar y fersiwn Almaeneg o raglen Big Brother, ar gyfer pencampwriaeth tenis yr US Open ac ar sianelau BBC America a Fox.
Mae Owain Llwyd newydd gychwyn darlithio yn Ysgol Gerdd Prifysgol 黑料不打烊- mewn cyfansoddi a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, wedi iddo ddilyn Ysgoloriaeth Cyfrwng Cymraeg, a ariannwyd gan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Fe raddiodd o Brifysgol 黑料不打烊 ac mae ganddo Ddoethuriaeth gan yr Ysgol Gerdd yn ogystal.
Mae wedi cyfansoddi a rhyddhau llond pedwar CD o gyfansoddiadau epig yn y 18 mis diwethaf. Mae CD arall o waith Owain yn cael ei ryddhau鈥檔 fuan- ond peidiwch 芒 rhuthro at eich siop gerddoriaeth leol- gweithio efo cwmni cyhoeddi cerddoriaeth ryngwladol mae Owain, a nhw sydd yn hybu鈥檌 gerddoriaeth. Maent yn anfon y CDiau at gwmn茂au cynhyrchu ffilm a theledu dros y byd. Hyn sydd yn dwyn ffrwyth ar hyn o bryd, wrth i gwmn茂au cynhyrchu ddewis ei gerddoriaeth ar gyfer eu rhaglenni. Mae hefyd yn derbyn ceisiadau a chomisiynau i gyfansoddi darnau arbennig ar gyfer rhai cwmn茂au cynhyrchu.
Fel yr esbonia Owain: 鈥淒wi鈥檔 licio cerddoriaeth ddramatig, epig fel y gerddoriaeth mewn ffilmiau fel Gladiator a Braveheart beth bynnag,鈥 meddai Owain. 鈥淔elly mae cyfansoddi cerddoriaeth efo them芒u cryf yn dod yn hawdd i mi. Dwi鈥檔 ystyried y math o gynulleidfa fydd yn gwylio a gwrando ac yn cychwyn wrth 鈥榝raslunio鈥欌檙 gerddoriaeth ar y piano er mwyn gosod y syniadaeth ar gyfer y gerddorfa.鈥
鈥淎r gyfer y CD diweddaraf 鈥楤ig Screen Atmospheres鈥 roedd rhaid i mi greu鈥檙 manylion ac amrywiadau cerddorol ar gyfer cerddoriaeth oedd eisoes wedi recordio鈥檔 fras gan g么r a cherddorfa. Bum ym Mratislava鈥檔 recordio efo cerddorfa ac yna鈥檔 recordio C么r Riga yn Latfia- yn ogystal 芒 chyfansoddi, roeddwn yn gynhyrchydd ar y CD yn cydweithio efo t卯m cynhyrchu fy nghyhoeddwyr, Boosey & Hawkes.鈥
鈥淵 briff oedd creu cerddoriaeth ysgytwol- maen鈥 rhaid cael lot yn digwydd mewn trelar ar gyfer ffilm epig- rhaid cael rhywbeth yn digwydd o fewn y gerddoriaeth bob pum eiliad.鈥
Felly鈥檙 tro nesaf rydych chi鈥檔 clywed miwsig ysgytwol yn gefndir i ryw raglen neu ffilm, wyddoch chi ddim, efallai mai cerddoriaeth Owain Llwyd, y cyfansoddwr ifanc o Lyndyfrdwy ydyw?
Mae Owain yn cyfeirio at y ffaith na fyddai ddim o鈥檙 llwyddiant hyn wedi bod yn bosib heb gefnogaeth ei rieni Mike a Shirley Brown.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2010