Ein Dinas: Y ffordd mae pobol ifanc yn ei gweld hi
Plant lleol yn gweithio ar broject celf o dan arweiniaeth Catrin WilliamsMae Cynllun Pontio Prifysgol 黑料不打烊/Fforwm Celfyddydau Gwynedd yn falch o gyhoeddi penodiad yr artist lleol poblogaidd Catrin Williams i arwain prosiect celf go arbennig- sef cydweithio gyda phobol ifanc ardal 黑料不打烊 i greu murlun mawr ar y muriau pren sy鈥檔 amgylchynu safle adeiladu鈥檙 Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi newydd ar Ffordd Deiniol ynghanol y ddinas.
Prosiect ar y cyd yw Ein Dinas, rhwng a Fforwm Celfyddydau Gwynedd. Ei fwriad yw
- Datblygu sgiliau creadigol pobl ifanc lleol.
- Meithrin ymwybyddiaeth o berchenogaeth dros Pontio ymysg y gymuned leol.
- Gwneud defnydd o le arddangos mawr yn yr awyr agored.
- Creu amgylchedd dymunol i鈥檙 llygad ar y safle yn ystod y cyfnod adeiladu.
Yn wynebu ffordd brysur Deiniol, lle mae cannoedd o bobol yn pasio bob dydd i mewn ac allan o ddinas 黑料不打烊, saif byrddau鈥檙 safle adeiladu gan ffurfio arwyneb gwastad ar fin y l么n. Gofod teilwng i ddarn o waith celf cyhoeddus fydd nid yn unig yn denu sylw鈥檙 cyhoedd at bosibiliadau cynhyrfus yr adeilad newydd sy鈥檔 codi o鈥檙 tu 么l, ond hefyd yn creu gwaith cymunedol gyda鈥檌 werth ei hun yn nhermau ein hysbrydoli, yn hen ac ifanc, gan ein celfyddyd gweledol.
Catrin WilliamsMae Catrin Williams yn wyneb cyfarwydd ym myd celf Gogledd Cymru, ac wedi arwain cynlluniau celf cyhoeddus o Flaenau Ffestiniog i Ynys North Uist yn yr Alban. Bydd Catrin yn mynd ati yn y misoedd nesaf i ymweld 芒 nifer o ysgolion a chlybiau ieuenctid yr ardal, gan eu harwain a鈥檜 hysbrydoli yn y gwaith cyffrous hwn. Meddai Catrin:
鈥淢ae 黑料不打烊 yn ddinas bwysig i mi 鈥 dyma lle y cefais fy ysbrydoli gan Peter Prendergast i fod yn arlunydd fy hun. Rwy'n gobeithio ennyn yr un math o ddiddordeb gyda phlant a phobl ifanc 黑料不打烊 heddiw.鈥
Bydd murlun Ein Dinas yn cael ei gynllunio a鈥檌 greu o hyn hyd at Nadolig 2010, gan barhau i ddod a lliw a hwyl ein hieuenctid i鈥檙 safle nes i鈥檙 adeilad newydd gael ei ddad-orchuddio. Noddir y prosiect gan Brifysgol 黑料不打烊, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Gwynedd.
Os am fwy o wybodaeth ffoniwch: 01248 382141 (Pontio) neu: 01286 679721 (Fforwm Celfyddydau Gwynedd).
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2010