Eisiau Gwybod Mwy am Yrfaoedd Mewn Cyfraith Ryngwladol?
11.00yb, Gwener 27/05/11, adeilad Alun (ystafell i鈥檞 chyhoeddi)
Petai chi鈥檔 fyfyrwyr blwyddyn gyntaf neu yn astudio tuag at radd Meistr, nid yw byth rhy gynnar i feddwl am y cam nesaf yn eich gyrfa gyfreithiol. Mis yma, bydd Dr Suzannah Linton, a phenodwyd fel Athro Cyfraith Ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊 yn ddiweddar, yn rhoi mewnwelediad i鈥檙 fath o yrfaoedd sydd ar gael yn y sectorau Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus a Chyfraith Hawliau Dynol.
Bydd y sesiwn hon yn ymdrin 芒 chyfleoedd gyrfa ar lefelau academaidd ac ymarferol, gyda mewnwelediad i feysydd penodol megis cyfraith ddyngarol, cyfraith ryngwladol gyhoeddus, cyfraith wrthdrawiad arfog, a hawliau dynol. Mae croeso i fyfyrwyr o bob blwyddyn ar lefel isradd ac 么l-radd mynychu.
Cyfreithiwr cymwysedig yn y Deyrnas Unedig, adnabuwyd yr Athro Linton yn eang fel arweinydd yn ei maes. Ymunwyd ag Ysgol y Gyfraith, 黑料不打烊, yn dilyn sawl flynedd o ymarfer gyda sefydliadau rhyngwladol ar draws y byd yn cynnwys y Cenhedloedd Unedig, y Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop, a Swyddfa Uwch Comisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal 芒 llysoedd a thribiwnlysoedd rhyngwladol megis Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol yr hen Iwgoslafia a鈥檙 Tribiwnlys Penderfyniadau Dyledion ar Gyfer Cyfrifon Cwsg yn y Swistir.
Yn flaenorol, mae鈥檙 Athro Linton wedi gweini fel erlynydd Troseddau Difrifol o flaen y Panel Arbenigol ar gyfer Troseddau Difrifol yn Nwyrain Timor, ac wedi rhoi cyngor ar gyfraith ryngwladol i Gomisiwn Derbyniad, Gwirionedd a Chysoniad Dwyrain Timor. Mae ei ffocws wedi bod ar atebolrwydd dros droseddau dybryd yn erbyn hawliau dynol a chyfraith ddyngarol, ac ail-adeiladu cenhedloedd a ddifethwyd gan ryfel. Yn benodol, mae鈥檔 arbenigwr yn y Balcannau, Dwyrain Timor, Indonesia a Cambodia.
Dyma gyfle arbennig i dderbyn arweinyddiaeth yn ymwneud a chyfleoedd yrfa ym maes y gyfraith. Peidiwch 芒 cholli allan!
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2011