Eisteddfod Genedlaethol- Gweithgareddau Prifysgol 黑料不打烊 Dydd Mawrth
Pontio鈥檔 datgelu manylion y cynhyrchiad Cymraeg gyntaf i鈥檞 lwyfannu yn y ganolfan newydd
Caiff manylion y cynhyrchiad Cymraeg gyntaf i鈥檞 lwyfannu yng nghanolfan Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol 黑料不打烊, fydd yn agor y flwyddyn nesaf, eu datgelu yn yr Eisteddfod.
Bydd Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert, a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd, yn trafod y sioe - sydd ar hyn o bryd yn ddienw - mewn sesiwn agored am 11 o鈥檙 gloch fore Mawrth 6 Awst ym mhabell Prifysgol 黑料不打烊 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cadeirir y cyfarfod gan y gyn-ddarlledwraig Bethan Jones Parry a bydd yn cynnwys trafodaeth ehangach gyda Chyfarwyddwr Gweithredol Pontio, Dewi Hughes, ar amcanion y ganolfan at y dyfodol.
Dathlu hyfforddi gweithwyr cymdeithasol drwy鈥檙 iaith Gymraeg
Bydd Prifysgol 黑料不打烊 yn dathlu diwedd blwyddyn gyntaf y cwrs MA Gwaith Cymdeithasol a dderbyniodd ei fyfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2012. Cynhelir y digwyddiad brynhawn Mawrth, 6 Awst am 1 o鈥檙 gloch ym mhabell y brifysgol yn y brifwyl.
Hwn yw鈥檙 cwrs cyntaf o'i fath yng Nghymru sy鈥檔 cynnig rhaglen hyfforddi broffesiynol ar lefel meistr mewn gwaith cymdeithasol yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Ni fu hyn ar gael ar lefel meistr nac israddedig cyn hyn.
Fel esbonia Gwenan Prysor, Cyfarwyddwr M.A. Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol 黑料不打烊:
鈥淢ae'r cwrs yn ddatblygiad cyffrous ac amserol gan ei fod yn cyd-fynd 芒 鈥淢wy na Geiriau鈥, sef Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol.
鈥淢ae'n bwysig bod pobl yn gallu siarad am eu sefyllfa, eu teimladau a'u syniadau dwys, cymhleth neu emosiynol yn yr iaith sydd fwyaf effeithiol iddynt hwy. Mae datblygu gweithlu sydd yn broffesiynol, yn hyderus ac yn abl yn eu sgiliau a'u gwybodaeth yn un o amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwaith cymdeithasol fel proffesiwn.
鈥淢ae datblygu gweithlu dwyieithog sydd yn broffesiynol, yn hyderus ac yn abl i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan o'r ddarpariaeth yma.鈥
Yn ogystal 芒 darparu myfyrwyr sydd yn gymwys i weithio ym maes gwaith cymdeithasol ar ddiwedd y cwrs, mae cyfle i鈥檙 myfyrwyr eu hunain ymgymryd 芒 phroject ymchwil sy鈥檔 seiliedig ar ymarfer.
Darlith flynyddol cylchgrawn Barn
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Ysgol y Gymraeg wedi cydweithio ar broject Mynediad i Radd Meistr gyda Cwmni Barn Cyf, sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r cylchgrawn materion cyfoes a diwylliannol 'Barn'. I ddathlu llwyddiant y cydweithio hwn, cynhelir darlith flynyddol y cylchgrawn ym mhabell 黑料不打烊 am 2 o鈥檙 gloch brynhawn Mawrth 6. Y darlithydd eleni fydd Guto Bebb AS.
Mae鈥檙 cynllun Mynediad i Radd Meistr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar brojectau MA mewn cydweithrediad 芒鈥檜 goruchwilwyr academaidd a chwmni neu gorff allanol . Fe鈥檌 gyllidir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy鈥檙 rhaglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a鈥檙 Cymoedd.
Digwyddiadau eraill o amgylch y maes:
Bydd Angharad Price, o Ysgol y Gymraeg Prifysgol 黑料不打烊 yn cyflwyno 鈥淐hums? Dylanwad Daniel Owen ar T.H. Parry-Williams鈥 yn y Babell L锚n am 3.45 o鈥檙 gloch brynhawn Mawrth 6.
Yn y Babell L锚n, am 11 o鈥檙 gloch y bore, bydd Dr Enlli Thomas o Ysgol Addysg Prifysgol 黑料不打烊 yn cyflwyno 鈥淥 enau plant bychain: caffael iaith a sgiliau gwybyddol plant dwyieithog yng Nghymru鈥. Mae Enlli Thomas yn arbenigo mewn dwyieithrwydd yng nghyd-destun seicoleg ac addysg. Dyma ran o gyfres ddarlithoedd blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013