Elis Dafydd o Brifysgol 黑料不打烊 yn ennill y Gadair
Elis Dafydd, myfyriwr o Brifysgol 黑料不打烊, sydd wedi ennill cadair Eisteddfod yr Urdd Caerffili a鈥檙 Cylch 2015.
Mae鈥檙 gadair yn cael ei chyflwyno am gyfansoddi鈥檙 gerdd gaeth neu rydd orau, heb fod dros 100 llinell. Gwreichion oedd y testun eleni.
Aeth Elis, sydd o Drefor ger Caernarfon, i Ysgol yr Eifl yn Nhrefor, Ysgol Glan-y-M么r a Choleg Meirion Dwyfor cyn mynd ymlaen i wneud gradd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Mae bellach yn astudio am radd MA yma. Roedd yn cystadlu o dan y ffug enw 鈥楻hys鈥.
Roedd deuddeg wedi cystadlu eleni, ac roedd y beirniaid Ifan Prys a Mari George yn teimlo y gallai鈥檙 cyntaf, ail a鈥檙 trydydd fod wedi bod yn deilwng o鈥檙 gadair eleni. Ond oherwydd aeddfedrwydd a phrofiad Elis, ei waith ef ddaeth i鈥檙 brig.
Wrth draddodi, dywedodd y beirniaid, 鈥淣odir dyddiad a lleoliad uwchben pob un o鈥檌 gerddi gan fynd 芒 ni yn 么l ac ymlaen o Fangor i Gaeredin rhwng ychydig ddyddiau cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban a mis Chwefror 2015. Amod o gariad yw鈥檙 gwreichion ac mae鈥檙 cariad hwn yn mynd a dod ac yn symbol o obaith / colli gobaith. Mae gan y bardd glust dda am rythm cerdd rydd ac mae鈥檙 dweud yn syml ac yn ddiymdrech.鈥
Daeth Elis yn ail yng nghystadleuaeth Medal Ddrama鈥檙 Urdd yn 2009 ac roedd yn un o鈥檙 pedwar a fu鈥檔 ymgymryd 芒 Her 100 Cerdd 2013. Mae wedi cyfrannu deunydd - yn gerddi ac adolygiadau 鈥 at sawl cyhoeddiad ac roedd yn gyd-olygydd gwadd ar y rhifyn diweddaraf o Tu Chwith. Ei ddiddordebau yw llenyddiaeth, crwydro a mwydro.
Dywedodd Elis, 鈥淗offwn ddiolch o waelod calon i鈥檙 holl athrawon, darlithwyr, teulu a ffrindiau am bob cefnogaeth ac ysbrydoliaeth. Hoffwn hefyd gydnabod fy nyled i鈥檙 holl feirdd a llenorion sydd wedi cael cymaint o ddylanwad arnaf.鈥
Elan Grug Muse o Aelwyd Dyffryn Nantlle ddaeth yn ail o dan y ffug enw Jisk艡i膷ka, gyda Iestyn Tyne o Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor yn drydydd o dan y ffug enw Parisien.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2015