Emily yn ennill gwobr Womenspire
Emily Roberts gyda Christopher Warner, Chwarae TegMae Gweinyddwr Prosiect , Parc Gwyddoniaeth Prifysgol 黑料不打烊, wedi ennill gwobr gan Chwarae Teg.
Enillodd Emily Roberts gwobr yn y categori Menyw yn yr Economi Wledig, sy'n codi ymwybyddiaeth o鈥檙 rhwystrau mae menywod sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig yn eu hwynebu.
Mae Emily yn gyn-fyfyriwr Seicoleg ym Mhrifysgol 黑料不打烊, a hi oedd yr aelod staff swyddogol cyntaf yn M-SParc, sydd bellach yn cynnwys t卯m o bump, ac mae wedi bod yn y swydd hon ers tair blynedd a hanner.
Dywedodd Emily: "Mae'n gyfle gwych i mi allu cefnogi ac annog menywod eraill yn yr ardal. Mae cael y cyfle i ddatblygu strategaethau sydd wedi cael effaith ar ethos cwmni M-SParc mewn perthynas 芒 chydraddoldeb yn deimlad gwych. I mi, mae M-SParc yw darparu mwy na lle swyddfa a labordy i gwmn茂au yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg; mae'n ymwneud 芒 gwneud y gyrfaoedd hynny yn fwy hygyrch i bawb.
"Mae gennym gyllid ERDF drwy Lywodraeth Cymru ac rydym wedi gorfod datblygu them芒u trawsbynciol. Roeddwn yn gallu sicrhau bod rhai o'r rhain yn seiliedig ar fentora ac annog menywod yn y sector, a chynnal fforymau a chynadleddau er mwyn eu cynorthwyo. Mae cael fy ngwobrwyo am fy ymdrechion yn golygu llawer, ond nid yw'n golygu bod gwaith wedi鈥檌 orffen, a byddaf yn parhau i wneud fy rhan i helpu i gael mwy o fenywod yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg."
Meddai Ieuan Wyn Jones, Cyfarwyddwr M-SParc: 鈥淔el Parc Gwyddoniaeth rydym yn hynod o falch fod Emily wedi ennill y wobr yma. Yn ystod ei gwaith efo ni, mae Emily wedi dangos ymroddiad anghyffredin, ac wedi dangos ymrwymiad cryf wrth hyrwyddo merched ym maes gwyddoniaeth. Mae ganddi frwdfrydedd heintus sydd wedi rhoi hwb i weddill y t卯m i fynd y filltir ychwanegol yn ein gwaith.鈥
Mae Gwobrau Womenspire yn dathlu llwyddiannau menywod o bob cefndir yng Nghymru sy'n gwneud pethau eithriadol ym mhob agwedd ar eu bywydau bob dydd. Mae鈥檙 categor茂au鈥檔 adlewyrchu amrywiaeth eang o weithgareddau, ac yn annog ceisiadau gan ferched o bob oedran ac o bob cefndir sy鈥檔 falch o鈥檙 hyn y maent yn ei gyflawni - boed hynny yn eu bywydau personol neu broffesiynol, neu yn y gymuned ehangach.
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn ymrwymedig i hyrwyddo gyrfaoedd menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEMM), egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori yn rhan o fenter Siarter Athena Swan. Mae鈥檙 Brifysgol wedi llwyddo i ennill y Wobr Efydd ac wedi ymrwymo i wella ar hynny. Mae mentrau a phrojectau Athena SWAN yn rhoi sylw i staff a myfyrwyr ac o fudd i鈥檙 naill a鈥檙 llall.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017