Enillydd Gwobr Ymddiriedolaeth Addysgol y CISI 2019
Llongyfarchiadau i Jesper Ipland ar dderbyn Gwobr Ymddiriedolaeth Addysgol y Chartered Institute for Securities & Investment(CISI). Mae Jesper yn graddio'r wythnos hon gyda gradd BSc Dosbarth Cyntaf mewn Economeg Gyllidol. Ef oedd y myfyriwr a berfformiodd orau o'r rhai a wnaeth gais i sefyll yr arholiad CISI yn Ysgol Busnes 黑料不打烊. Penderfynwyd ar hyn gan ei farc uchel yn yr aseiniad Cyllid Corfforaethol Uwch.
Mae Ysgol Busnes 黑料不打烊 yn Bartner Addysg y CISI. Mae'r berthynas hon yn helpu i ddatblygu cyflogadwyedd i'n myfyrwyr mewn cyfrifeg, bancio, cyllid ac economeg. Mae Gwobrau Ymddiriedolaeth Addysgol y CISI yn dathlu rhagoriaeth ymhlith myfyrwyr israddedig ac 么l-raddedig.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019