Enillydd medal Aur Olympaidd ac actor Monty Python ymysg y bobl sy'n derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgol 黑料不打烊
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi cyhoeddi enwau'r unigolion nodedig a fydd yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn 2013.
鈥淢ae gan Brifysgol 黑料不打烊 draddodiad maith o gydnabod cyraeddiadau dynion a merched o bob math o wahanol feysydd. Dydi eleni ddim yn eithriad ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno Cymrodoriaethau er Anrhydedd. Bydd ein Cymrodyr yn ychwanegu cryn fri a lliw i鈥檙 seremon茂au pan fyddwn hefyd yn cydnabod cyraeddiadau ein myfyrwyr,鈥 meddai Cofrestrydd y Brifysgol, Dr David Roberts.
Enwau Cymrodyr er Anrhydedd 2013 yw:
Geraint Talfan Davies - am wasanaeth i fywyd cyhoeddus yng Nghymru
Cadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig a Chadeirydd Opera Cenedlaethol Cymru. Bu'n newyddiadurwr gyda'r Times a'r Western Mail yn gynnar yn ei yrfa ac roedd yn Rheolwr BBC Cymru, 1990-2000. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar Gyngor Celfyddydau Cymru, bwrdd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a chyrff eraill.
Dr Lyn Evans CBE, FRS - am wasanaethau i Wyddoniaeth
Bu'n bennaeth Project y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr yn CERN, y Swistir, gan reoli rhedeg labordy yn cynnwys staff o 2,500 a goruchwylio cydweithio rhwng nifer o fudiadau byd-eang a pheirianwyr oedd yn gweithio ar adeiladu a phrofi elfennau o'r Peiriant Gwrthdaro. Ar hyn o bryd mae鈥檔 Gyfarwyddwr y Peiriant Gwrthdaro Unionlin yn CERN - y cyntaf i ddal y swydd newydd. Fe'i ganed yn Aberd芒r, graddiodd yn Abertawe ac fe'i cydnabyddir yn arbenigwr byd mewn ffiseg cyflymu a chyfeirir ato weithiau fel "Evans yr Atom".
Dr Peter Florence MBE - am wasanaeth i'r celfyddydau
Sylfaenydd a Chyfarwyddwr G诺yl y Gelli ers 1988; mae'n ei ddisgrifio fel "cymysgedd dwys o leol o'r llwythol a'r byd-eang". Galwodd Bill Clinton yr 诺yl yn "Woodstock y meddwl". Mae'r digwyddiad blynyddol ym Mhowys yn 诺yl lenyddol enfawr, sydd bellach wedi ysbrydoli gwyliau'r Gelli ar draws y byd. Addysgwyd Florence yng Nghaergrawnt ac yn y Sorbonne ym Mharis.
Ann Griffiths - am wasanaeth i Gerddoriaeth
Telynores, hanesydd y delyn, athrawes a chyfansoddwraig a aned yn ne Cymru. Graddiodd Ann yn y Gymraeg yng Nghaerdydd ac yna astudio yn y Conservatoire ym Mharis. Yn ddiweddarach daeth yn Athro yn yr Academi Gerdd Frenhinol, ac mae ei phrif ddiddordeb mewn telynau hanesyddol. Yn ogystal 芒 pherfformio a dysgu, mae wedi ysgrifennu'n eang ar delynau, y grefft o wneud telynau a therminoleg y delyn.
Eric Hepburn - am wasanaeth i fywyd cyhoeddus
Yn raddedig o Ysgol Busnes 黑料不打烊 bu'n Brif Swyddog Gweithredol yn 10 Downing Street o dan Gordon Brown a David Cameron. Yn awr mae'n Gonswl Cyffredinol Prydain yn Washington.
Patrick Holdich - am wasanaeth i fywyd cyhoeddus
Graddiodd mewn Hanes ym Mangor ddiwedd y 1970au, ac ar 么l dilyn cwrs 么l-radd yn yr LSE, daeth yn Ddarlithydd yng Ngholeg Queen Mary, Llundain. Ymunodd 芒'r Swyddfa Dramor yn 1985 a chael ei gydnabod yn fuan fel arbenigwr ar bolisi tramor UDA a Chanada. Yn 1998 daeth yn Bennaeth Gr诺p yr Amerig yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ac yn 2009 daeth yn Gonswl Cyffredinol Prydain ym Montreal.
Bryan Hope - am wasanaeth i gadwraeth treftadaeth ddiwydiannol
Cyn Brif Beiriannydd Cynhaliaeth yng Nghyngor Gwynedd, wedi ei sefydlu ar Ynys Mon. Fe sylfaenydd Ymddiriedolaeth Ddiwydiannol Amlwch ac mae nawr yn lywydd yr Ymddiriedloaeth.Mae'n siaradwr Cymraeg.
Tom James MBE: Credyd: George Powell a British Olympic AssociationTom James MBE - am wasanaeth i chwaraeon
Magwyd Tom James yng Nghoedpoeth ger Wrecsam a dechreuodd rwyfo pan oedd yn fachgen ysgol yng Nghaer. Aeth yn ei flaen i Gaergrawnt (gan raddio mewn peirianneg yn 2007); bu'n hogi ei sgiliau rhwyfo yno a daeth yn Llywydd Clwb Rhwyfo Prifysgol Caergrawnt yn 2006/7. Enillodd fedalau aur ym Mhencampwriaethau Byd 2011 (y gystadleuaeth pedwar yn rhwyfo), ac yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008 a Llundain yn 2012.
Huw Jones - am wasanaeth i ddarlledu
Cadeirydd S4C. Cyn Brif Weithredwr S4C, 1994-2005. Cyd-sylfaenydd Recordiau Sain a Theledu'r Tir Glas. Mae hefyd yn gyn gyflwynydd teledu a chanwr. Cadeirydd Portmeirion Cyf, a Dirprwy Gadeirydd Nant Gwrtheyrn.
Paul Mealor - am wasanaeth i Gerddoriaeth
Cyfansoddwr a aned yn Llanelwy ac sydd 芒 chartref ar Ynys M么n o hyd. Mae wedi gweithio ym Mhrifysgol Aberdeen ers 2003, ac ar hyn o bryd mae'n Athro Cyfansoddi yno. Daeth i enwogrwydd yn 2011 pan berfformiwyd darn a gyfansoddwyd ganddo ym mhriodas y Tywysog William a Kate Middleton. Hefyd ysgrifennodd 鈥榃herever you are鈥 - sy'n seiliedig ar lythyrau milwyr a oedd yn gwasanaethu yn Afghanistan - a oedd yn Rhif 1 Nadolig 2011 i 鈥楾he Military Wives鈥.
Yr Athro Mark Williams FBA - am wasanaeth i seicoleg glinigol.
Athro Seicoleg Glinigol yn Rhydychen ers 2004. Yn flaenorol yn Athro Seicoleg Glinigol ym Mangor (1991-97) ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor (1997-2001). Mae wedi arloesi mewn ymchwil i therapi gwybyddol ar sail ymwybyddiaeth ofalgar ac wedi ysgrifennu'n eang ar drin iselder ac ymddygiad hunanladdol.
Dewiswyd yr unigolion canlynol ar gyfer Cymrodoriaethau Er Anrhydedd mewn blynyddoedd blaenorol, ond ni allent fynychu鈥檙 seremoni; maent wedi mynegi y byddant yno yng Ngorffennaf 2013:
Terry HandsTerry Hands - am wasanaeth i'r theatr
Cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru ers 1997. Graddiodd ym Mhrifysgol Birmingham, sefydlodd y Liverpool Everyman Theatre ac roedd yn Gyfarwyddwr Artistig iddo (1964-66). Bu gyda'r Royal Shakespeare Company am 20 mlynedd gan godi i fod yn Brif Weithredwr, 1986-91. Mae ganddo brofiad eang fel cyfarwyddwr theatr ac opera, gan gyfarwyddo cynyrchiadau yn y T欧 Opera Brenhinol, y National Theatre, y Chichester Festival Theatre ac ar gyfer theatrau mewn gwahanol rannau o'r byd.
Terry Jones - am wasanaeth i ffilm, theatr a theledu.
Mae'n ysgrifennwr, actor ac yn gyfarwyddwr ffilm a adnabyddir orau am ei ymddangosiadau a gwaith ysgrifennu ar gyfer Monty Python鈥檚 Flying Circus (1969-75). Cyd-ysgrifennodd a pherfformio yn y ffilm Monty Python and the Hold Grail (1975) a Monty Python鈥檚 Life of Brian (1978) a llawer o ffilmiau eraill. Cafodd Terry Jones ei eni ym Mae Colwyn a bu'n allweddol yn y gwaith o adfywio Theatr Colwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2013