Ennil tair Gwobr Cynaliadwyedd
Cefn ch-dd ac yna dde-ch: Matt Day, Carmen Ria Smith, Conor Savage, Dylan Williams, Rob Samuel, Ifan James, Mair Rowlands, Rebecca Kent, Helen Marchant.Mae Undeb ºÚÁϲ»´òìÈ () wedi ennill nid un na dwy, ond tair gwobr am eu gwaith cynaliadwyedd.
Gwobrwywyd yr Undeb efo Gwobr Aur yng Ngwobrwyon ‘’ yr UCM (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr), wedi iddynt ennill Gwobr Aur ddwywaith yn 2011 a 2013 a’r wobr Rhagoriaeth Effaith Gwyrdd ddwywaith yn 2012-13 am eu cynllun peilot 'Beics ºÚÁϲ»´òìÈ' a 2014-14 am Bartneriaeth Cymunedol Caru ºÚÁϲ»´òìÈ. Gwobrwywyd nhw hefyd yn Undeb y Flwyddyn (anfasnachol) yn y Gwobrau Effeithiau Gwyrdd ym Lerpwl.
Cynllun achredu amgylcheddol sy’n cael ei gynnal gan yr NUS yw Green Impact, lle caiff perfformiad amgylcheddol undebau myfyrwyr eu meincnodi’n annibynnol. Mae’r Wobr yn rhoi her i Undebau Myfyrwyr ddilyn y dulliau gweithredu gorau yn ymwneud â’r amgylchedd ac ystyried cynaladwyedd wrth gynnig gwasanaethau i fyfyrwyr. Nod y Gwobrau hefyd yw tynnu sylw at y gwaith da mewn perthynas â’r amgylchedd a wneir mewn Undebau Myfyrwyr a’u cyflwyno i’r cyhoedd.
Enillodd Undeb ºÚÁϲ»´òìÈ drydedd wobr genedlaethol hefyd: Gwobr Arbennig Effaith Werdd. Mae'r wobr hon yn Wobr Arloesi Amgylcheddol sy’n rhoi y cyfle i Undebau Myfyrwyr fynd y tu hwnt i'r camau gweithredu disgrifiwyd yn y meini prawf Effaith Werdd a defnyddio creadigrwydd i gael effaith go iawn yn eu hundeb, sefydliad neu gymuned. Cais Undeb ºÚÁϲ»´òìÈ oedd menter ar y cyd i fyfyrwyr i hyrwyddo datblygu cynaliadwy drwy ddysgu a rennir ar draws cyfandiroedd; partneriaeth rhwng Undeb ºÚÁϲ»´òìÈ a Urdd y Myfyrwyr Makerere-Uganda.
Dywedodd Mair Rowlands, Swyddog Cynaliadwyedd Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ o’r Lab Cynaliadwyedd sy’n cydlynu y gwaith Effaith Werrdd gyda’r Undeb: "Rydym wedi cyflawni gwaith anhygoel trwy ‘r rhaglen Effaith Werdd dros y 6 mlynedd diwethaf, ac mae Undeb ºÚÁϲ»´òìÈ wedi profi eu bod yn rhagori ar gynaliadwyedd gan ddangos y ffordd i Undebau ar draws y DU.
Hefyd rydym wedi Ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am ein partneriaeth rhyngwladol gyda Urdd y Myfyrwyr Prifysgol Makerere gan ennill y wobr Arbennig Effaith Werdd. Cynllun mewn partneriaeth gyda’r Lab Cynaliadwyedd a Undeb ºÚÁϲ»´òìÈ yn cydweithio’n agos i datblygu strategaeth cynaliadwyedd wedi'i anelu at wella dealltwriaeth ac ymgysylltiad myfyrwyr gyda arferion cynaliadwyedd ym Mangor ac yn Makerere (Uganda)."
Dywedodd Dylan Williams Cyfarwyddwr yr Undeb "Mae hyn yn gyflawniad rhyfeddol arall i Undeb ºÚÁϲ»´òìÈ; rydym wedi profi ein bod yn gwneud gwaith rhagorol yn ymwneud â chynaliadwyedd, yn ogystal â gwneud cynaliadwyedd yn un o'n gwerthoedd craidd, mae'n cael ei ymgorffori yn gyfan gwbl o fewn y diwylliant staff, swyddogion a myfyrwyr yr Undeb. Rydym yn falch iawn o'n cynnydd ac rydym wedi datblygu enw da yn genedlaethol ar gynaliadwyedd ac mae'r gwobrau hyn yn brawf o hynny ".
Am fwy o wybodaeth am gynaliadwyedd yn yr Undeb, ewch i:
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2016