Entrepreneuriaid Santander 黑料不打烊
Tom Purnell yn derbyn siec yr enillydd gan yr Is-Ganghellor yr Athro John G. Hughes Mae Tom Purnell, myfyriwr Dylunio Cynnyrch, a Will Osborn, myfyriwr 么l-radd Seicoleg Defnyddwyr, wedi ennill cystadleuaeth Prifysgol 黑料不打烊 o鈥檙 Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander a byddant yn cynrychioli'r Brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Roeddent ymhlith y myfyrwyr a fu'n cystadlu鈥檔 ddiweddar yn cyflwyno eu syniadau busnes o flaen panel o feirniaid, a oedd yn cynnwys Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes. Y dasg a osodwyd gan d卯m Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd oedd meddwl am syniad busnes arloesol. Roedd y syniadau a gyflwynwyd gan y myfyrwyr yn cynnwys ystod eang o gynnyrch a phynciau.
Yn dilyn saith cyflwyniad gan fyfyrwyr israddedig a phedwar gan fyfyrwyr 么l-radd, rhoddodd y beirniaid y wobr gyntaf o 拢200 i'r myfyrwyr israddedig ac 么l-radd gorau ac ail wobr o 拢50 yng nghategori鈥檙 israddedigion.
Wrth gyhoeddi mai Tom Purnell oedd yr enillydd o blith y myfyrwyr israddedig, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro John G. Hughes, bod y syniad rhagorol, y dyluniad arbennig a gwybodaeth helaeth Tom am y farchnad a'i botensial wedi gwneud argraff dda ar y beirniaid. Derbyniodd Tom a Will sieciau am 拢200 yr un.
Will Osborne yn derbyn siec yr enillydd gan yr Is-Ganghellor yr Athro John G. Hughes Dywedodd Will Osborne, sy鈥檔 astudio gradd Meistr bod ennill y gystadleuaeth yn deimlad da iawn. Meddai, "Mae'n dangos bod fy syniad yn un da, bod yr holl waith rwyf wedi ei wneud yn werth chweil, a鈥檙 gobaith yw y bydd dyfodol disglair i fy nghynnyrch. Bydd yr arian yn cael ei wario ar ddatblygu'r cynnyrch. Y cam nesaf yw paratoi ar gyfer y rownd derfynol. Roedd yr adborth a gefais gan yr arbenigwr ar y panel yn ddefnyddiol iawn. Mae'r gystadleuaeth yn gyfle gwych i gyflwyno eich syniadau a byddwn yn ei argymell i unrhyw un."
Wrth gyflwyno鈥檙 gwobrau i'r enillwyr, dywedodd Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes, "Roedd syniadau a brwdfrydedd yr ymgeiswyr wedi gwneud argraff dda ar bob un o鈥檙 beirniaid. Mae ansawdd rhai o'r syniadau busnes yn ardderchog, ac mae rhai cynhyrchion masnachol cryf posibl wrthi鈥檔 cael eu datblygu. Fy mwriad yw gwneud Prifysgol 黑料不打烊 yn un o sefydliadau mwyaf blaenllaw'r wlad o ran arloesedd ac entrepreneuriaeth. Byddwn yn annog yr holl ymgeiswyr i geisio cael cymorth pellach gan y Brifysgol i ddatblygu eu syniadau entrepreneuraidd."
Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys yr Athro John G. Hughes, Is-ganghellor; Chris Drew, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa鈥檙 Cysylltiadau Strategol; Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Dylunio Pontio a Chris Walker, Cyfarwyddwr People Systems International.
Yr hyn a ysbrydolodd Tom Purnell i wneud ei broject Dylunio Cynnyrch ar gyfer blwyddyn olaf ei radd yn Ysgol Addysg y Brifysgol oedd ei brofiad o ddefnyddio cymorth achub nofwyr wrth weithio fel achubwr bywydau gyda鈥檙 RNLI.
Daw Tom, sy鈥檔 21 oed, o Aberteifi, ac ailgynlluniodd y cymorth achub nofwyr ar 么l cael profiad o'i ddefnyddio.
Mae ei brototeip ar fin cael ei gwblhau ac mae Tom yn awyddus i ddatblygu'r cynnyrch ymhellach. Meddai, "Rwyf wedi gweithio ym maes dylunio cynnyrch ers tua wyth mis fel rhan o鈥檓 lleoliad ar fy nghwrs gradd a hefyd dros fisoedd yr haf. Rwy'n credu ei fod yn waith diddorol, ond hoffwn ddilyn yr holl brosesau o ddatblygu cynnyrch i鈥檞 farchnata ac mae gen i ddiddordeb mewn datblygu鈥檙 cynnyrch hwn ar gyfer y farchnad.
"Un peth pwysig yr wyf wedi ei ddysgu o'r gystadleuaeth yw pwysigrwydd cyfrinachedd a diogelu鈥檆h syniadau."
Cynhelir rownd derfynol y gystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander yn y T欧 Opera Brenhinol yn Llundain ar 17 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2012