Enwebiad barddol o bwys i Athro o Brifysgol 黑料不打烊
Mae bardd ac ysgolhaig o Brifysgol 黑料不打烊 wedi ei enwebu ar gyfer un o鈥檙 swyddi pwysicaf ac amlycaf ym myd barddoniaeth.
Mae Ian Gregson wedi ei enwebu ar gyfer swydd Athro Barddoniaeth Rhydychen (Oxford Professor of Poetry). Mae鈥檙 swydd hanesyddol ym Mhrifysgol Rhydychen yn swydd anrhydeddus ran-amser a ddyfarnwyd i rai o feirdd amlycaf y DU. Mae deiliad y swydd pum mlynedd yn rhoi tair darlith bwysig y flwyddyn ac araith yn ystod Seremon茂au Graddio鈥檙 Brifysgol.
Creda Ian Gregson, sydd yn fardd, yn feirniad llenyddol ac yn athro ysgrifennu creadigol, ac sydd bellach yn Athro Emeritws Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol 黑料不打烊, bod y symudiad tuag at ddiwylliant gweledol dros yr hanner can mlynedd diwethaf, yn gosod her i farddoniaeth. Mae鈥檔 dadlau ein bod yn rhoi mwy o werth ar fynediad rhwydd a 鈥榮ydyn鈥, lle mae barddoniaeth yn gofyn am arafwch ac amser i astudio a chwilio am ystyr.
鈥淓r bod barddoniaeth wych yn dal i gael ei hysgrifennu, tydi hi ddim bellach yn cael ei darllen gan bobol, sydd, mewn meysydd eraill, yn ymddiddori mewn llenyddiaeth gyfoes, diwylliant a鈥檙 celfyddydau. Gofynnwch i rywun sydd wedi darllen Wolf Hall gan Hilary Mantel, er enghraifft, neu sydd wedi bod i weld cynhyrchiad theatrig newydd, os ydynt wedi darllen barddoniaeth a ysgrifennwyd wedi 2000 ac mae鈥檔 bosib mai 鈥榚rioed鈥 fydd yr ateb,鈥 meddai.
Mae鈥檙 Athro Gregson yn dadlau dros roi amser i farddoniaeth fel ffurf berthnasol tu hwnt ar gelfyddyd - ac un sydd wedi dylanwadu ar y meddwl cyfoes mor ddiweddar 芒鈥檙 1930au, pryd roedd diagnosis un Athro Barddoniaeth, W.H.Auden, o 鈥a sickness in the heart of capitalism鈥 yn cael ei ddyfynnu鈥檔 aml. Nid oes amheuaeth na chafodd beirdd y Rhyfel Byd Cyntaf hwythau ddylanwad ar syniadaeth boblogaidd y cyfnod.
Llongyfarchwyd yr Athro Gregson gan yr Athro Helen Wilcox, Pennaeth yr ar gael ei enwebu ar gyfer swydd mor amlwg gan ddweud:
鈥淢ae dysgu ysgrifennu creadigol yn un o鈥檔 cryfderau yn yr Ysgol ac Ian Gregson a fu鈥檔 arloesi yn y maes. Mae鈥檙 myfyrwyr sydd yn ysgrifennu ym Mhrifysgol 黑料不打烊 heddiw yn elwa ar y traddodiad hwn ac yn cael eu dysgu am farddoniaeth gan lenorion sydd wedi ennill parch yn rhyngwladol, fel Carol Rumens a Zo毛 Skoulding.鈥
Rhaid i enwebiad ar gyfer y gadair dderbyn cefnogaeth hanner cant o leiaf o raddedigion Prifysgol Rhydychen. Cyhoeddir y canlyniadau ar Fehefin 19. Mae gwaith yr Athro Gregson i鈥檞 weld ar http://iangregson.co.uk/
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2015