Enwebu Prifysgol 黑料不打烊 am dair wobr yn dilyn cydweithio 芒 busnesau
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi ei henwebu ar gyfer tair gwobr yng ngwobrau Business and Education Awards y cwmni cyhoeddi Wales Business Insider a gynhelir yng Nghaerdydd ar 3 Tachwedd. Nod y gwobrau hyn yw tynnu sylw at y cydweithio llwyddiannus sy鈥檔 digwydd rhwng sefydliadau addysg Cymru ac economi鈥檙 wlad.
Yn ogystal 芒 derbyn enwebiad ar gyfer gwobr Prifysgol y Flwyddyn a gwobr am y Barneriaeth Orau am ei gwaith gyda chwmni Horizon Nuclear Group, mae鈥檙 Brifysgol hefyd wedi ei henwebu am wobr y Broses Newydd orau, a hynny yn dilyn cydweithio llwyddiannus 芒 chwmni cynhyrchu a dosbarthu cerddoriaeth Gymraeg.
Bu鈥檙 Dr Steffan Thomas, sydd bellach yn ddarlithydd yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau y Brifysgol, yn gweithio 芒 chwmni Sain (Recordiau) Cyf fel rhan o raglenni Knowledge Transfer Partnership (KTP) a (KESS) 鈥 ill dwy yn rhaglenni cenedlaethol sy鈥檔 hybu trosglwyddo arbenigeddau academaidd er budd yr economi drwy gydweithio 芒 busnesau a chwmniau lleol.
Nod y project KTP oedd arwain Sain (Recordiau) Cyf at y farchnad e-werthu a dan arweiniad Dr Thomas, datblygwyd gwefan newydd a sefydlwyd partneriaethau ar gyfer dosbarthu digidol ar draws yr holl blatfformau gwerthu mawr megis iTunes, Amazon a Spotify. O ganlyniad i鈥檙 newidiadau a wnaethpwyd i strwythur ddata y catalog digidol 鈥 sy鈥檔 cynnwys dros 18,000 o draciau unigol 鈥 mae鈥檙 gerddoriaeth bellach ar gael gan y cwmn茂au dosbarthu o fewn 4 diwrnod wedi i albwm gael ei rhyddhau.
Fel rhan o鈥檙 project KESS gyda鈥檙 cwmni, bu Dr Thomas yn cynnal ymchwil dwys ar agweddau penodol o weithgaredd Sain (Recordiau) Cyf, megis e-farchnata, ymddygiad cwsmeriaid, cyfraith hawlfraint, cerdd-ladrad, modelau busnes newydd ac adolygu gweithgareddau鈥檙 cyfryngau eraill. Ar 么l casglu a dadansoddi ymatebion 1,500 o bobl, defnyddiwyd y data er mwyn datblygu model busnes newydd a fyddai鈥檔 gweddu i gwmni cynhyrchu o faint Sain (Recordiau) Cyf ac sy鈥檔 gweithio鈥檔 bennaf oddi mewn i iaith leiafrifol.
Prif ganlyniad y cydweithio hwn rhwng Prifysgol 黑料不打烊 a chwmni Sain (Recordiau) Cyf oedd datblygu a lansio gwefan newydd sbon yn ogystal 芒 phorth e-werthu newydd. Mae鈥檙 datblygiadau hyn wedi arwain at gynnydd o 70% mewn gwerthiant digidol yn ystod y 12 mis cyntaf a 15% yn flyddynol wedi hynny.
Meddai Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Sain (Recordiau) Cyf:
鈥淢ae鈥檙 berthynas gyda Phrifysgol 黑料不打烊 a鈥檙 Dr Steffan Thomas wedi ein galluogi ni yma yn Sain i fentro yn hyderus, trosglwyddo ein cynnyrch a鈥檔 gwasanaethau i鈥檙 fformatau digidol ac i lansio gwasanaeth ffrydio newydd o鈥檙 enw Apton. Mae鈥檙 datblygiadau hyn yn allweddol wrth geisio diogelu鈥檙 diwydiant cerdd yng Nghymru.鈥
Gan edrych ymlaen at y gwobrau ar 3 Tachwedd, meddai鈥檙 Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淢ae cael ein henwebu ar gyfer y gwobrau hyn yn tystio i鈥檙 effaith y gall ein hymchwil ni ei gael ar yr economi leol a chenedlaethol. Drwy weithio 芒 busnesau a dangos perthnasedd ein ymchwil yn y byd go-iawn, rydym yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad y rhanbarth yma fel canolbwynt ar gyfer arloesi a mentergarwch.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016