Erin Hughes yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd
Erin Hughes: Enillydd Coron Eisteddfod yr UrddEnillydd Coron Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed 2018 yw myfyrwraig Prifysgol 黑料不打烊, Erin Hughes o Ben Ll欧n. Mae鈥檔 ennill am ddarn o ryddiaith ar y thema 鈥楾erfysg鈥, i ganmoliaeth uchel gan y beirniaid, Catrin Beard a Lleucu Roberts. Mae Erin, 20, yn byw yng Ngheidio, yn ardal Boduan ger Pwllheli ac yn blentyn canol o bump o blant.
Cafodd ei haddysg gynradd yn Ysgol Pont-y-G么f, ac yna addysg uwchradd yn Ysgol Botwnnog a Choleg Merion Dwyfor. Mae bellach newydd orffen ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol 黑料不打烊, lle mae鈥檔 astudio鈥檙 Gymraeg a Chymdeithaseg.
Yn eu beirniadaeth o lwyfan y pafiliwn dywedodd y beirniaid: 鈥淢ae canfod y darn arbennig hwnnw bob amser yn wefr, ond mae derbyn sawl darn rhagorol, gwreiddiol, aeddfed a safonol eu mynegiant yn brofiad prin, i鈥檞 drysori. Mae鈥檔 bleser cael dweud mai dyma ddigwyddodd eleni.鈥
Yn anffodus, ni allai Erin fod yn bresennol i dderbyn ei choron yn seremoni heddiw oherwydd salwch. Mae Erin yn dioddef o gyflwr sy'n ymyrryd ar y cyswllt rhwng y nerfau a'r cyhyrau; cyflwr a elwir yn Myasthenia Gravis.
Yn ei habsenoldeb fe gyflwynwyd ei choron, sy鈥檔 cael ei rhoi eleni gan Ysgol Llanfair-ym-Muallt, i鈥檞 darlithydd, yr Athro Gerwyn Williams, yr un wnaeth ei symbylu a鈥檌 hysbrydoli i gystadlu eleni.
Gan enwi Aled Jones Williams, Sonia Edwards a Lleucu Roberts fel rhai o鈥檌 dylanwadau mwyaf, mae Erin yn dweud bod ei dyled yn enfawr i鈥檞 hathrawon a鈥檌 darlithwyr Cymraeg am eu hanogaeth ddiflino ar hyd y blynyddoedd.
Meddai: 鈥淒iolch i Esyllt Maelor a Rhian Jones yn yr ysgol uwchradd, ac i Delyth Roberts a Bethan Mair yn y coleg. A diolch o鈥檙 mwyaf i鈥檙 Athro Gerwyn Williams yn y brifysgol am ei adborth gwerthfawr a鈥檌 barodrwydd i feithrin y grefft ynof.鈥
Mae hefyd eisiau diolch i鈥檞 theulu ac i Steffan ei phartner a鈥檌 deulu, oedd yn bresennol yn y seremoni. Ychwanegodd: 鈥淢ae 鈥榙iolch鈥 yn teimlo鈥檔 air mor fach i gynnal y mawredd rydw i yn ei deimlo ar hyn o bryd, ond diolch yn yr un modd.鈥
Dywedodd meistr y ddefod, Elin Havard, o鈥檙 llwyfan:
鈥淢ae hon wedi bod yn ddefod wahanol, ond yr un yw鈥檙 clod i鈥檙 enillydd. A phan fydd Erin wedi gwella, fe fydd yr Urdd yn trefnu seremoni yn y dyfodol er mwyn ei hanrhydeddu. Llongyfarchiadau gwresog felly i Sioned Erin Hughes, Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018.鈥
Roedd y beirniaid Catrin Beard a Lleucu Roberts yn ganmoladwy iawn o waith y prif lenor:
鈥淟lwydda Melyn i daro鈥檙 darllenydd yn ei dalcen gyda鈥檙 disgrifiadau o ymweliadau Du, ac mae dyfodiad telynegol Gwyn fel y lloer i oleuo鈥檙 noson dywyll yn drawiadol. Ceir yr un safon yn yr ail stori, Dau Aderyn, sy鈥檔 s么n am fab a鈥檌 fam yn gwylio dyn yn neidio o un o鈥檙 ddau d诺r a ddisgynnodd yn Efrog Newydd. G诺yr y llanc mai ei dad sy鈥檔 syrthio, ac effaith y gwybod enbyd hwn ar y fam yw craidd y stori. Mae鈥檙 ddrama鈥檔 datblygu fesul eiliad wrth i amser arafu, ond ar wyneb ei fam y mae鈥檙 ddrama i鈥檙 mab wrth edrych yn 么l.
鈥淥herwydd i鈥檙 awdur lwyddo i gynnal cysondeb safon drwyddi draw, a chreu darluniau fydd yn aros yn hir yn y cof, penderfynwyd dyfarnu鈥檙 goron eleni i Melyn.鈥
Stori gan yr Urdd.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2018