Estyn allan i leihau hunan-niwed a hunanladdiad
Tra bo llawer o ymchwil wedi cael ei gwneud i hunan-niwed a hunanladdiad ymhlith pobl Ewrop ac America, ac mae dealltwriaeth o'r ffactorau risg, rydym yn gwybod llawer iawn llai am yr ymddygiadau hyn yn ne Asia, lle mae'r cyfraddau'n uchel iawn.
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi derbyn grant clodwiw o gronfa ymchwil heriau byd-eang Cyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig i weithio gyda chydweithwyr yn India a Phacistan i ymdrin 芒'r materion hyn. Bydd y project yn rhoi'r sgiliau i ymchwilwyr lleol y mae arnynt eu hangen i ddatblygu rhaglenni hir dymor i leihau marwolaeth, anabledd a thrallod. Mae'r Grant Galluogi yn elfen allweddol yn strategaeth cymorth y DU i dyfu'r sylfaen ymchwil yn y DU a chryfhau gallu dramor. Y nod yw mynd i'r afael 芒 sialensiau ymchwil sy'n ymateb i anghenion a fynegwyd mewn gwledydd sy'n datblygu.
Eglurodd yr Athro Catherine Robinson, a fydd yn arwain y project pedair blynedd: 鈥淏ydd y project yn sefydlu cofrestri hunan-niwed bwriadol; yn cynnal arolygon o gartrefi; ac yn casglu gwybodaeth gan bobl y mae hunan-laddiad a hunan-niwed bwriadol wedi effeithio ar eu bywydau.
鈥淵r allwedd i'r project yw datblygu dulliau o wneud hyn i gyd mewn ffyrdd trwyadl, sensitif a diogel, gan greu llwyfan o ddulliau a sgiliau newydd sy'n berthnasol i dde Asia. Bydd yn bosib wedyn ymdrin ag amrywiaeth o gwestiynau pwysig am straen cymdeithasol, chwilio am gymorth ac ymyrraeth effeithiol. Gyda gwell dealltwriaeth, rydym yn gobeithio dylanwadu ar gynlluniau iechyd y cyhoedd a datblygu gwasanaethau iechyd, gan osod agenda ar gyfer ymchwil yn y dyfodol a defnyddio'r canfyddiadau i helpu poblogaethau risg uchel yn y DU.鈥
Dywedodd Dr Nasim Chaudhry, o'r Pakistan Institute of Living and Learning, sy'n bartneriaid yn yr ymchwil:
鈥淢ae hunan-niwed bwriadol a hunan-laddiad yn parhau'n droseddau cosbadwy ym Mhacistan 鈥 Bydd ein gwaith nid yn unig yn darparu tystiolaeth gadarn am eu mynychter ond hefyd ar yr hyn sy'n annog pobl i geisio cymorth.鈥
Dywedodd Yr Athro Ian Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd:
鈥淢ae'r grant clodwiw hwn gan y Cyngor Ymchwil yn gamp ardderchog i'r Athro Robinson a'i th卯m yn y Ganolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas, ac yn newyddion gwych ar gyfer ymchwil i iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'r gwaith yn mynd i'r afael 芒 phroblem bwysig hunan-niwed a'r effaith ddinistriol y gallai ei gael ar unigolion a chymunedau. Rydw i'n credu y bydd yn cael effaith o bwys, nid yn ne Asia yn unig, ond yma ym Mhrydain hefyd."
Meddai鈥檙 Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊:
"Rydw i'n llongyfarch y t卯m ar ennill grant mor bwysig gan y Cyngor Ymchwil, sy'n adlewyrchu ansawdd ein gwaith. Mae hon yn enghraifft wych o'r ffordd mae ymchwil Prifysgol 黑料不打烊 yn cyfrannu at y sylfaen ymchwil yng Nghymru ac yn cael dylanwad ar draws y byd.鈥
Dywedodd Jo Johnson, Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth: 鈥淥 ofal iechyd i ynni gwyrdd, mae鈥檙 projectau llwyddiannus sy鈥檔 cael eu hariannu heddiw yn amlygu cryfder sylfaen ymchwil Prydain a鈥檔 harweinyddiaeth wrth roi cymorth i wledydd sy鈥檔 datblygu, iddynt fynd i鈥檙 afael 芒 rhai o faterion byd-eang o bwys ein cyfnod.
Ar adeg pan fo cyflymdra darganfyddiadau gwyddonol ac arloesi yn cynyddu, rydym yn gosod gwyddoniaeth ac ymchwil wrth wraidd ein strategaeth ddiwydiannol er mwyn cynyddu ein cryfderau a chynnal ein statws fel pwerdy gwyddoniaeth.鈥
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017