Estyn yn dweud bod dysgwyr Cymraeg y gogledd yn 鈥渞hagorol'
Staff y Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd CymruMae , a sefydlwyd ond 6 mlynedd yn 么l, ac sy鈥檔 rhan o Goleg Addysg a Prifysgol 黑料不打烊, wedi derbyn y clod uchaf posibl gan yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant, Estyn, am ansawdd ei darpariaeth.
Arolygwyd y Ganolfan gan d卯m o Arolygwyr Estyn yn ystod yr wythnos 21-25 Tachwedd 2011. Y Ganolfan sy鈥檔 gyfrifol am yr holl gyrsiau dysgu Cymraeg i Oedolion yng ngogledd Cymru.
Prif ganfyddiadau'r Arolygwyr yw bod perfformiad presennol y Ganolfan yn 鈥淩hagorol鈥 a bod ei rhagolygon i wella hefyd yn 鈥淩hagorol鈥 鈥 y dyfarniadau uchaf posibl.
Cyfeiriodd Estyn yn ei adroddiad at nifer o nodweddion rhagorol yng ngwaith y Ganolfan ac yn arbennig felly at addysgu o鈥檙 safon uchaf, hyfforddiant o鈥檙 radd flaenaf i鈥檙 tiwtoriaid, a hefyd fod dysgwyr yn llwyddo鈥檔 well nag yn unrhyw ran arall o Gymru.
Cyfeiriwyd hefyd at y dewis eang ac amrywiol o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr Cymraeg ynghyd 芒鈥檙 gefnogaeth sylweddol sydd ar gael iddynt y tu allan i鈥檙 dosbarth ar ffurf gweithgareddau cymdeithasol.
Canmolwyd y Ganolfan am ei rheolaeth a鈥檌 harweinyddiaeth gref. Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr y Ganolfan: 鈥淒an ni鈥檔 eithriadol o falch o dderbyn y dyfarniad yma gan Estyn, sy鈥檔 gadarnhad o ba mor uchel ydy safon y tiwtoriaid a鈥檙 cyrsiau yma鈥檔 y gogledd a pha mor galed mae鈥檙 t卯m o staff wedi gweithio mewn byr o dro.鈥
Tra鈥檔 derbyn mai dyfarniad i鈥檙 Ganolfan yw hwn ychwanegodd bod 鈥測 cydweithio sydd wedi bod gyda鈥檔 partneriaid 鈥 fel y Colegau Addysg Bellach a鈥檙 Brifysgol 鈥 a鈥檙 gefnogaeth rydan ni wedi ei chael ganddyn nhw, wedi bod yn allweddol i鈥檔 llwyddiant鈥.
Mae gan y Ganolfan weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol ac y mae鈥檔 benderfynol o adeiladu ar ei seiliau cadarn a chynnal rhagoriaeth ymhob agwedd o鈥檌 darpariaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2012