Ethol Athro o Fangor yn Gymrawd o鈥檙 Academi Brydeinig
Yr Athro Nancy Edwards FBAMae hanesydd ac archeolegydd blaenllaw o Brifysgol 黑料不打烊 wedi ei hethol yn Gymrawd o鈥檙 Academi Brydeinig ().
Mae Nancy Edwards, Athro Archaeoleg Ganoloesol yn Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg y Brifysgol wedi derbyn y Gymrodoriaeth, sef yr anrhydedd uchaf y gall ysgolhaig yn y celfyddydau a'r dyniaethau ei gael ym Mhrydain, mewn cydnabyddiaeth o鈥檌 chyfraniad nodedig i ymchwil mewn archeoleg.
Pob blwyddyn mae'r Academi Brydeinig yn ethol yn Gymrodyr hyd at 42 o ysgolheigion nodedig o'r DU sydd wedi ennill amlygrwydd yn unrhyw gangen o'r dyniaethau a gwyddorau cymdeithas. Yng ngeiriau'r Academi Brydeinig, mae cymrodyr yn ysgolheigion sydd 'wedi rhagori yn unrhyw un o'r canghennau astudio y mae'r Academi yn eu hyrwyddo.'
Canolbwynt ymchwil yr Athro Edwards yw archeoleg Cymru ac Iwerddon ym mlynyddoedd cynnar y cyfnod canoloesol. Mae ei diddordebau pennaf yn ymwneud 芒 cherrig arysgrifedig a cherflunwaith carreg ac archeoleg yr eglwys.
Mae鈥檙 Athro Edwards wedi cyhoeddi鈥檔 eang. Ymhlith ei gwaith mwyaf dylanwadol, mae鈥檙 ddwy gyfrol ar gerrig arysgrifedig a cherflunwaith carreg yng Nghymru (Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculptures, Volume III, North Wales and Volume II South-West Wales). Mae鈥檙 cyfrolau鈥檔 cwmpasu gwaith gwerthfawr i gynnwys yr holl henebion, gan gynnwys rhai nad ydynt wedi eu rhestru. Yn y blynyddoedd diweddar, mae wedi bod yn cynnal gwaith archeolegol o bwys i ymestyn ein dealltwriaeth hanesyddol ac archeolegol o D诺r Eliseg, colofn o鈥檙 nawfed ganrif a saif ger Llangollen.
Mae Nancy Edwards hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Gymrawd Cymdeithas Henebion (Society of Antiquaries) ac mae wedi gwasanaethu yn cynghori ar archeoleg i sawl gorff cyhoeddus yng Nghymru.
Meddai鈥檙 Athro Andrew Edwards, Deon y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau ym Mhrifysgol 黑料不打烊:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn bod cyfraniad sylweddol ac ystyrlon Nancy i archeoleg wedi ei gydnabod gan yr Academi Brydeinig gyda鈥檙 Gymrodoriaeth o bwys. Mae hyn yn wobr haeddiannol iawn i ysgolhaig sydd wedi gweithio鈥檔 ddiflino i hybu a datblygu ei disgyblaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mae鈥檙 wobr yn adlewyrchiad clir o鈥檙 parch a roddir i Nancy fel awdurdod byd-eang ar archeoleg Cymru ac Iwerddon.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2016