F1 mewn ysgolion - Rownd Derfynol Ranbarthol 2013
Tim Falcon F1 Ysgol Uwchradd Cei Conna gyda Bob Carter, EESWCynhaliodd Ysgol Addysg Prifysgol 黑料不打烊 Rownd Derfynol Ranbarthol F1 Gogledd Cymru'n ddiweddar. Yn y gystadleuaeth Fformiwla 1 boblogaidd hon daeth dros 20 o ysgolion cynradd ac uwchradd at ei gilydd i gystadlu am leoedd yn Rownd Derfynol Genedlaethol y Deyrnas Unedig a gynhelir tua diwedd Mawrth. Cynhelir Rownd Derfynol y Byd F1 mewn Ysgolion 2013 yn Austin, Texas
Aeth y wobr gyntaf yn y categori 鈥楧osbarth F1 鈥 i d卯m 鈥楩alcon F1鈥 o Ysgol Uwchradd Cei Conna a oedd hefyd yn fuddugol yn y categori car cyflymaf gydag amser o 1.658 eiliad. Enillodd Falcon F1 y wobr am y Car 芒'r Beirianneg Orau hefyd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
'Aeroshock' o Ysgol Uwchradd Eirias a gipiodd yr ail wobr yn y Dosbarth F1 a th卯m 'BOLT' o Ysgol Glan Clwyd oedd yn fuddugol yn y Dosbarth Bloodhound.
Meddai Christopher Jennings o d卯m buddugol Cei Conna:
鈥淎r 么l treulio cryn dipyn o amser, ryw 60 o oriau, trwy wersi allgwricwlaidd, a phedair blynedd o gystadlu, o'r diwedd mae Falcon F1 yn cael y cyfle i gynrychioli Gogledd Cymru a Chymru gyfan, gobeithio, yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig a'r Byd. Mae'r safonau a osodwyd yn y Rownd Derfynol Ranbarthol hon wedi mynd yn fwyfwy cystadleuol ac anodd oherwydd safon uchel y timau."
Ychwanegodd:
Tim Aeroshock o Ysgol Uwchradd Eirias gyda Bob Carter, EESW"Mae'r lleoliad yn wych, felly hefyd trefn y mannau tynnu mewn a'r sesiynau amseru drwy'r dydd. Fel ysgol rydym ni bob amser yn cael adborth cadarnhaol gan gwmn茂au a cholegau pan fydd y disgyblion yn symud ymlaen. Yn aml maent yn dweud mai'r gystadleuaeth F1 sydd wedi troi'r fantol o ran cynnig lle iddynt. Mae'r disgyblion a'r myfyrwyr yn ennill cryn brofiad, gan ddatblygu eu hyder a mwynhau'r awyrgylch t卯m cystadleuol."
Aeth gwobrau eraill y diwrnod hwnnw i'r timau canlynol:
- Hunaniaeth t卯m-Venom, Ysgol Uwchradd Prestatyn
- Gwobr Meddwl Arloesol -Hyperion ,St Brigids
- Noddi a Marchnata-BOLT -Ysgol Glan Clwyd
- Gwobr Ddewis y Beirniaid -Mellt Y Moelwyn Ysgol Y Moelwyn
- T卯m Newydd Gorau.-Nutrino, St Brigids
Dywedodd T卯m Falcon 1:
"Mae hi wedi cymryd pedair blynedd i'r ysgol a'r t卯m presennol hwn gyrraedd y safle buddugol hwn." Roedd yn foment emosiynol a balch iawn i bawb oedd yngl欧n 芒'r gwaith i gael ein coroni'n bencampwyr y dosbarth F1 ac i ennill y Car 芒'r Beirianneg Orau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Mae鈥檙 t卯m yn llawn brwdfrydedd r诺an ar gyfer y gystadleuaeth genedlaethol a byddant yn gwneud eu gorau glas i gyrraedd Rownd Derfynol y Byd yn Texas.
Tim Bolt o Ysgol Glan Clwyd gyda Bob Carter, EESWMae鈥檙 F1 mewn Ysgolion yn her amlddisgyblaethol lle timau o ddisgyblion rhwng 9 ac 19 oed yn cydweithio i ddylunio, dadansoddi, cynhyrchu, profi ac yna rasio ceir F1 pren balsa bychan sy'n gweithio ar nwy. 鈥淢ae鈥檙 her yn ysbrydoli disgyblion i ddefnyddio TG i ddysgu am ffiseg, aerodynameg, dylunio, gweithgynhyrchu, brandio, graffeg, nawdd, marchnata, arwain/gwaith t卯m, sgiliau cyfryngau a strategaeth ariannol a'u cymhwyso mewn ffordd ymarferol, ddychmygus, gystadleuol a chyffrous.鈥 Mae timau'n cael eu beirniadu ar gyflymder y car, yn ogystal 芒 thystiolaeth gefnogol o'r gwaith dylunio, y cyflwyniad llafar, a'r stondinau marchnata.
Meddai Dewi Rhys Rowlands, Cyfarwyddwr y Cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol 黑料不打烊:
鈥淢ae ansawdd y gwaith a gynhyrchwyd gan ysgolion uwchradd wedi bod yn rhagorol.
鈥淢ae achlysur o鈥檙 math yma鈥檔 rhoi sylw i feysydd dylunio, peirianneg a thechnoleg ar eu gorau. Mae brwdfrydedd trefnwyr y gystadleuaeth F1, y staff, yr ysgolion sy'n cymryd rhan a鈥檙 disgyblion eu hunain wedi bod yn wych unwaith eto eleni.
Mae鈥檙 digwyddiad F1 mewn ysgolion yn gyfle gwych sy鈥檔 ysbrydoli disgyblion ifanc i gymryd mwy o ddiddordeb ym maes dylunio cynnyrch a pheirianneg mewn ffordd ymarferol, gyffrous a llawn dychymyg ac yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau ehangach fydd yn eu helpu i gael swyddi.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2013