Ffair Swyddi yn lwyddiant
Cynhaliwyd Ffair Swyddi lwyddiannus iawn yn ddiweddar (28/09/16) yn Neuadd PJ ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Cafwyd dros 45 o stondinau gyda chyflogwyr graddedigion, cwmn茂au lleol a gwasanaethau gwirfoddol yn bresennol.
Fe ddaeth dros 1350 trwy 鈥榬 drysau yn cynnwys myfyrwyr a nifer helaeth o geiswyr swyddi lleol. Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn y Brifysgol a Swyddfa鈥檙 Adran Gwaith a Phensiynau/Ganolfan Waith.
Fel rhan o鈥檙 ddarpariaeth trefnwyd hefyd sesiynau gwybodaeth ar wahanol destunau megis llunio CV, dulliau cyfweld a recriwtio digidol ynghyd a digwyddiad penodol am gyflogadwyedd i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Fe gredodd un cyflogwr lleol (Oriel M么n) fod y digwyddiad yn un effeithiol tu hwnt oherwydd darparwyd cynulleidfa cymysg 鈥渘as ellir ei gyrraedd drwy
ddulliau marchnata traddodiadol.鈥
Fe ychwanegodd Pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol, Chris Little, ei fod yn 鈥渃roesawu鈥檙 math hwn o ddigwyddiad ar y cyd i hybu cysylltiadau agosach rhwng y Brifysgol, cyflogwyr lleol a chenedlaethol 芒鈥檙 gymuned lleol ehangach.鈥 Cytunodd cydweithwyr yn y Ganolfan Waith fod nifer dda o鈥檌 cwsmeriaid hwythau a myfyrwyr wedi mynychu鈥檙 digwyddiad ac 鈥渆drychant ymlaen i atgyfnerthu鈥檙 gwaith ar y cyd gyda鈥檙 Brifysgol drwy drefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2016