Ffordd arloesol o ymarfer iaith a chorff
Diolch i broject cydweithredol rhwng Prifysgol 黑料不打烊 a gwneuthurwr offer ffitrwydd blaenllaw mae cyfleoedd newydd bellach ar gael i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg wrth ymarfer corff. Bydd cyfle i ymwelwyr 芒 stondin y Brifysgol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Benfro yr wythnos nesaf ddefnyddio beic ymarfer proffesiynol gyda rhyngwyneb Cymraeg.
Mae鈥檙 datblygiad arloesol yma yn ffrwyth cydweithio rhwng y cwmni rhyngwladol Johnson Health Tech ac
Daeth y cwmni ar ofyn Canolfan Bedwyr am gymorth gyda鈥檙 gwaith o baratoi rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer eu hoffer ffitrwydd ar sail profiad y ganolfan yn datblygu datrysiadau Cymraeg i gwmn茂au rhyngwladol eraill fel Microsoft a Sharp. Gyda鈥檌 brif bencadlys yn Taiwan, mae Johnson Health Tech yn un o gwmn茂au mwyaf y byd ym maes offer ffitrwydd ac yn ymfalch茂o yn y ffaith fod amlieithrwydd yn ganolog i鈥檞 weledigaeth. Yn cynnwys y Gymraeg, mae鈥檙 cwmni bellach yn darparu rhyngwynebau mewn pymtheg o ieithoedd gwahanol..
Dywedodd Jon Johnston, Cyfarwyddwr Rheoli Johnson Health Tech 鈥淩ydym yn hynod o falch o fod wedi cael y cyfle i gydweithio gyda Phrifysgol 黑料不打烊 i gynhyrchu offer ffitrwydd ag iddo arwyddoc芒d cymdeithasol a diwylliannol ehangach. Fel cwmni, rydym yn ymwybodol iawn o鈥檔 cyfrifoldebau cymdeithasol ac yn hyderus y bydd y datblygiad newydd yma nid yn unig o fudd i ddefnyddwyr sy鈥檔 awyddus i ymarfer yn Gymraeg ond hefyd yn cyfrannu at y gwaith o gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynnal a datblygu defnydd o鈥檙 Gymraeg.鈥
Yng nghyd-destun yr angen i鈥檙 Gymraeg ganfod troedle cadarnach ym maes chwaraeon a hamdden, roedd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, yn arbennig o awyddus i鈥檙 ganolfan fod yn rhan o鈥檙 gwaith. Dywedodd: 鈥淢ae arbenigwyr ym maes cynllunio ieithyddol i gyd yn gyt没n fod defnydd o ieithoedd llai ym maes hamdden yn hanfodol i鈥檞 parhad. Roedd y nod o weld offer ffitrwydd yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg mewn canolfannau hamdden a champfeydd ledled Cymru a鈥檙 byd yn gymhelliad cryf iawn wrth ymgymryd 芒鈥檙 gwaith.鈥
Cafodd y gwaith cyfieithu ei hun ei wneud gan Uned Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr. Fel uned sy鈥檔 annog cyrff a sefydliadau cyhoeddus i ddefnyddio iaith sy鈥檔 glir, naturiol a hawdd ei deall, roedd amcan pendant i鈥檙 gwaith cyfieithu. Dywedodd Eleri Jones, Prif Olygydd Cymraeg Clir: 鈥淓in nod o hyd wrth greu fersiwn Gymraeg y feddalwedd oedd osgoi cyfieithu鈥檙 cyfarwyddiadau yn rhy gaeth ac annhyblyg. Roeddem yn awyddus i greu fersiwn Gymraeg a fyddai鈥檔 glir a hawdd ei deall er mwyn gwneud yn si诺r y bydd siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o bob oed a gallu yn dewis y rhyngwyneb Cymraeg wrth ymarfer.鈥
Mae cwmni Johnson Health Tech a Chanolfan Bedwyr yn awyddus i sefydlu partneriaeth hir dymor ac eisoes yn trafod y gwaith o osod y Gymraeg ar y genhedlaeth nesaf o beiriannau ffitrwydd sy鈥檔 cael eu datblygu gan y cwmni ar hyn o bryd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2013