Ffynonellau ynni a all gyfrannu at gynaliadwyedd ffermydd
Gallai rhannau o鈥檙 diwydiant amaeth Prydeinig gynhyrchu eu hynni eu hunain, o adnodd sydd yn llythrennol dan eu trwynau, a gwneud cyfraniad gwerthfawr i鈥檙 gymdeithas ehangach yn y fargen.
Dyna yw canlyniad ymchwil doethuriaeth gan John Walsh, myfyriwr ym Mhrifysgol 黑料不打烊, ar y cyd 芒 Fre-energy Ltd, cwmni sydd a鈥檌 bencadlys ger Wrecsam.
Gall prosesu biswail gwartheg trwy systemau treuliad anaerobig ddatrys nid yn unig broblem rheoli gwastraff ar y fferm, ond hefyd gall leihau 么l-troed carbon y fferm a darparu ffynhonnell p诺er i鈥檞 defnyddio neu ei gwerthu i鈥檙 grid cenedlaethol. Yn ogystal, gellir gwasgaru'r gweddillion a gynhyrchir yn sgil y broses ar y tir fel gwrtaith hynod effeithiol, fel na fydd angen prynu cymaint o wrtaith cemegol.
Er hynny, roedd ymchwil Dr Walsh, a wnaed o dan arweiniad arbenigol Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol 黑料不打烊 yn seiliedig ar asesu cost 'go iawn鈥 buddiannau sefydlu system o'r fath ar fferm 鈥 buddiannau sydd i raddau helaeth yn anweledig. Nid yn unig y ffermwr sy鈥檔 elwa ond y gymdeithas ehangach a鈥檙 economi gyfan, oherwydd ffactorau fel llai o allyriadau CO2, defnyddio gwastraff a fyddai, fel arall yn mynd i safle tirlenwi, lleihau aroglau drwg yn y cyffiniau, dyfrffyrdd glanach, ac ati.
Anodd amcangyfrifo gwerth y buddiannau hyn, yn enwedig eu gwerth ariannol. Tasg Dr Walsh oedd eu prisio鈥檔 ariannol, ar sail elfennau megis prisiau masnachu carbon a chost safleoedd tirlenwi i Lywodraeth y DU. Casgliad yr ymchwil oedd bod y system treuliad anaerobig yn cael ei thanbrisio mewn cynlluniau taliadau presennol gan ei bod yn creu llawer mwy o fuddiannau na ffurfiau eraill o ynni adnewyddadwy.
Cyllidir y Ddoethuriaeth dan Raglen Ysgoloriaethau Sgiliau鈥檙 Economi Wybodaeth (KESS). Mae rhaglen Ysgoloriaethau Sgiliau鈥檙 Economi Wybodaeth (KESS) yn rhaglen gydgyfeiriant Ewropeaidd sy鈥檔 cael ei harwain gan Brifysgol 黑料不打烊 ar ran y sector AU yng Nghymru. Gan fanteisio ar Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil ar y cyd (graddau Meistr Ymchwil a PhD) gyda phartneriaid allanol wedi eu lleoli yn ardal Cydgyfeiriant Cymru (Gorllewin Cymru a鈥檙 Cymoedd). Mae鈥檙 elfennau Meistr ymchwil a PhD wedi eu cyfuno 芒 rhaglen hyfforddi sgiliau lefel uchel, sy鈥檔 arwain at Gymhwyster Datblygu Sgiliau 脭l-radd. Bydd KESS yn rhedeg tan 2014, a bydd yn darparu dros 400 o leoedd PhD a Meistr.
Dywedodd John Walsh bod y profiad o weithio鈥檔 agos efo busnes wedi bod yn un buddiol: 鈥淩ydw i o blaid partneriaethau rhwng ysgolheictod a diwydiant. Treuliais dri mis efo鈥檙 cwmni, cyfrannais at eu llawlyfr a theimlaf fod gen i sgiliau llawer cryfach i鈥檞 gynnig oherwydd hynny, 鈥 meddai John. Mae鈥檔 ymfudo i Awstralia lle mae鈥檔 gobeithio gweithio yn y diwydiant amgylcheddol. Mae dwy bennod o鈥檌 ddoethuriaeth eisoes wedi eu cyhoeddi fel papurau academaidd, felly mae鈥檔 ymddangos bod astudio treuliad biswail yn addo dyfodol llewyrchus i John.
Meddai Dr Prysor Williams, un o oruchwylwyr academaidd John:
鈥淢ae鈥檔 bwysig ein bod ni, fel academyddion, yn medru darparu tystiolaeth ddiduedd o fuddiannau ehangach a chostau camau mae ffermwyr yn eu cymryd i leihau eu heffaith amgylcheddol a hefyd i roi buddiannau i gymdeithas yn fwy cyffredinol. Mae鈥檙 ymchwil wedi dangos bod System Treuliad Anaerobig yn system lle mae pawb ar ei ennill.鈥
Meddai Richard Tomlinson, Rheolwr Gyfarwyddwr Fre-energy:
"Mae Fre-energy wedi bod yn falch o gefnogi John yn yr astudiaeth bwysig hon, sydd wedi adnabod gwerth economaidd ac amgylcheddol gweddillion, sef ffrwyth technoleg hynod effeithiol ac unigryw Fre-energy, a鈥檙 hyn y gall ei gynnig i ffermio cynaliadwy. Mae treuliad anaerobig yn dechnoleg wych sy鈥檔 helpu i ymateb i鈥檙 her y mae amaethyddiaeth yn ei wynebu wrth geisio bwydo poblogaeth sydd yn cynyddu mewn modd mor effeithlon 芒 phosib heb ddisbyddu鈥檔 hadnoddau ymhellach."
Mae鈥檙 stori hon yn cael ei hamlygu yn ystod a gynhelir rhwng y 10fed a'r 14eg o Fehefin 2013. Mae鈥檙 ymgyrch yn dathlu cryfder y sector yn ogystal ag archwilio a dod i gasgliadau ynglyn 芒鈥檙 prif ffyrdd y gallai addysg uwch gyfrannu ymhellach i greu swyddi, ymchwil arobryn a thyfiant yma yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2013