Food Dudes Ifanc yn Arwain y Ffordd i Feithrinfeydd Iach
Enillodd rhaglen newydd gyffrous sy鈥檔 gweithio i sefydlu arferion bwyta da ymhlith plant ifanc iawn brif Wobr Ymchwil Iechyd LARIA (Cymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth Awdurdodau Lleol), mewn seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Manceinion.
Mae鈥檙 rhaglen yn ffordd effeithiol iawn o sicrhau bod plant mor ifanc 芒 2 neu 3 oed yn dysgu mwynhau bwyd da ac yn datblygu arferion bwyta iach a fydd yn para gydol eu hoes. Fel y dywedodd yr Athro Pauline Horne, a arweiniodd ddatblygiad y rhaglen, 鈥淢ae鈥檔 dangos nad ydych chi byth yn rhy ifanc i ddysgu.鈥
Yn ystod y degawdau diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol mewn gordewdra plant mewn gwledydd ledled y byd. Erbyn hyn mae gordewdra wedi cyrraedd lefelau uchel iawn yn y DU ac mae i鈥檞 weld yn yr ifanc iawn. Mae arbenigwyr yn y maes yn cydnabod ei bod yn bwysicach nag erioed i ymyrryd mor gynnar 芒 phosibl cyn i arferion diet gwael sefydlu eu hunain am oes.
A dyna dasg y rhaglen Food Dudes Ifanc! Mae鈥檙 rhaglen hon, sydd wedi鈥檌 hanelu at blant rhwng 2 a 5 oed, yn cael ei rhedeg mewn Meithrinfeydd, Canolfannau Blynyddoedd Cynnar a Chylchoedd Chwarae. Mae wedi鈥檌 modelu ar raglen hynod lwyddiannus Food Dudes Ysgolion Cynradd, sy鈥檔 cael ei redeg mewn llawer o ysgolion yn y DU ac Iwerddon. Mae鈥檙 cynllun Young Dudes newydd wedi鈥檌 gynllunio鈥檔 arbennig i apelio at feddyliau a boliau iau.
Mae鈥檙 rhaglen yn defnyddio cyfres o 鈥渂rociau鈥 a dylanwadau newid ymddygiad i helpu plant ifanc iawn i wneud dewisiadau iachach ac i ddysgu mwynhau amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau, sy鈥檔 golygu y byddant yn bwyta llai o鈥檙 bwydydd melys a brasterog y mae plant yn bwyta cymaint ohonynt y dyddiau hyn.
Ar 么l gweld ffilmiau o鈥檙 delfrydau ymddwyn, y Food Dudes Ifanc arwrol a dynamig, Rocco, Razz, Tom a Charlie, sy鈥檔 mwynhau ac yn cael egni mawr arbennig drwy fwyta ffrwythau a llysiau, bydd y plant ifanc am eu hefelychu. (Cliciwch yma i weld y Fideo Hyrwyddo - )
Ac, yn well byth, pan fyddant yn dechrau blasu鈥檙 ffrwythau a鈥檙 llysiau a roddir iddynt, byddant yn ennill gwobrau Food Dudes cyffrous. Maent yn ymfalch茂o yn eu llwyddiant, a gall pawb ennill.
Ar 么l cael eu cyflwyno i鈥檙 un bwydydd dro ar 么l tro, maent yn dechrau magu blas amdano. Eu blasbwynt sy鈥檔 gwneud y dysgu.
Cafodd treialon o dan reolaeth y Rhaglen newydd eu cynnal yn Walsall, yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, , gyda chymorth GIG Walsall, Walsall MBC a Phrifysgol 黑料不打烊. Roeddent yn dangos bod plant mewn Meithrinfeydd a oedd wedi cael profiad o鈥檙 rhaglen Food Dudes yn bwyta 129% yn fwy o lysiau, a 55% yn fwy o ffrwythau. Roedd yr enillion hyn i鈥檞 gweld o hyd 3 mis yn ddiweddarach. Nid oedd arferion bwyta plant mewn ysgolion cymharu ble鈥檙 oedd yr un amrywiaeth o ffrwythau a llysiau鈥檔 cael eu cynnig dros ar 么l tro, yn dangos yr un gwelliannau. Mae鈥檙 astudiaeth yn dangos nad yw cynnig bwyd da鈥檔 ddigon 鈥 mae hefyd yn hanfodol i gymell y plant i鈥檞 fwyta!
Sarah Pullen, Food Dudes Health; Dr. Barbara Watt, Public Health Consultant, Walsall MDC and Professor Fergus LoweBydd yr ysgolion cymharu yn awr yn dilyn y rhaglen Food Dudes Ifanc fel y gall y plant hynny fod yn Dudes hefyd.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Mike Bird, deiliad portffolio Iechyd Cyhoeddus Cynghrair Cyngor Walsall 鈥淩ydym wrth ein bod 芒 llwyddiant y rhaglen hon i wella arferion bwyta pobl ifanc iawn yn Walsall.
鈥淢ae wedi bod yn brofiad gwych i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig 芒鈥檙 rhaglen: staff y meithrinfeydd, a rhieni ac, wrth gwrs, y plant eu hunain, a oedd wedi gwirioni.鈥
Meddai Salma Ali, Swyddog Atebol Gr诺p Comisiynu Clinigol Walsall 鈥淢ae cyflwyno Food Dudes i ysgolion cynradd Walsall ac, yn awr, i鈥檙 Meithrinfeydd, wedi trawsnewid popeth, ac rydym mor falch o gael gweithio mewn partneriaeth i arloesi mewn ymyriadau gwirioneddol effeithiol yn yr agwedd holl bwysig hon ar iechyd cyhoeddus.鈥
Yn 么l yr Athro Fergus Lowe, un o sylfaenwyr Food Dudes, 鈥淒ylai unrhyw ymdrech o ddifrif i atal gordewdra ddechrau gyda phlant ifanc iawn. Mae鈥檙 rhaglen hon yn arwain y ffordd yn rhyngwladol drwy ddangos sut yn union y gellir cyflawni hyn a sut y gellir sefydlu arferion bwyta da鈥檔 gynnar mewn bywyd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2013