Gall dulliau鈥檙 gwasanaeth iechyd helpu'r heddlu fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Gall dulliau a ddefnyddir i hyrwyddo gwybodaeth newydd ar draws sefydliadau mawr a chymhleth yn y gwasanaeth iechyd gael eu cymhwyso i helpu heddluoedd fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae鈥檙 Athro Jo Rycroft-Malone a Dr Christopher Burton o yn gweithio efo Heddlu Gogledd Cymru a'r Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol ar ddatblygu dulliau plismona effeithiol er mwyn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd y cydweithio鈥檔 edrych yn fanwl ar ddull a ddefnyddir yn effeithiol yn y gwasanaeth iechyd i ledaenu a mabwysiadu gwybodaeth a thystiolaeth newydd am yr hyn sy'n effeithiol ar draws sefydliadau mawr a chymhleth. Mae'r fframwaith PARIHS (Promoting Action on Research Implementation in Health Services ), a ddatblygwyd gan yr Athro Rycroft-Malone ar gyfer y gwasanaeth iechyd, yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n sicrhau bod tystiolaeth am yr hyn sy'n effeithiol ac effeithlon yn cael ei ddefnyddio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd. Bydd y cydweithio鈥檔 profi pa mor hawdd yw hi i drawsblannu fframwaith PARIHS i gyd-destun plismona. Bydd hefyd yn sicrhau bod dulliau gweithredu addas yn cael eu cynllunio i hyrwyddo defnyddio atebion effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Meddai鈥檙 Athro Rycroft-Malone, Cyfarwyddwr rhaglen ymchwil GWEITHREDU yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd: 'Mae fy nghyd-gyfarwyddwr, Dr Burton, a minnau鈥檔 falch iawn o fod yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a'r Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol ar faterion o bwys yn rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'r cydweithredu鈥檔 rhoi cyfle gwych i rannu profiad ac arbenigedd wrth fynd i'r afael 芒'r sialensiau cymhwyso鈥檙 dystiolaeth o鈥檙 'beth sy'n gweithio' ar draws gwasanaethau cyhoeddus gwahanol.'
'Mae lleihau a datrys troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol i Heddlu Gogledd Cymru,' meddai Ian Shannon, y Dirprwy Brif Gwnstabl, 'ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth y mae Prifysgol 黑料不打烊 a'r Asiantaeth Gwella Plismona Cenedlaethol yn ei rhoi. Mae鈥檙 ymdriniaeth gydweithredol hon yn dangos ein hymrwymiad ar y cyd i ddulliau gweithredu sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth, sy'n hanfodol er mwyn gwarchod y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i'r cyhoedd, yn enwedig pan fo adnoddau鈥檔 brin.'
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2012