Geiriadur 黑料不打烊
Mae Geiriadur Cymraeg Saesneg y BBC n么l yn fyw ar ei newydd wedd!
Pan dynnwyd Geiriadur y BBC o鈥檜 gwefan, yn sgil ymddeol eu hen feddalwedd, roedd llawer o bobl yn gweld ei golli. Er bod geiriaduron ar-lein eraill yn bodoli rhwng y Gymraeg a鈥檙 Saesneg erbyn hyn, roedd nifer o ddefnyddwyr, gan gynnwys dysgwyr, yn hoffi ei ryngwyneb syml, hawdd ei ddefnyddio. Roedd ei gyfuniad o eirfa cyffredinol a鈥檙 termau technegol diweddaraf hefyd yn boblogaidd iawn.
Gofynnwyd i lunwyr gwreiddiol y Geiriadur, sef yng Prifysgol 黑料不打烊, a oedd modd iddyn nhw ei adfer, a鈥檌 gyhoeddi ar wefan y brifysgol.
Fe fu Dewi Bryn Jones a Gruffudd Prys wrthi felly yn diweddaru gwedd y geiriadur a鈥檌 nodweddion chwilio hwylus. Mae鈥檙 geiriadur yn gyfuniad o Cysgair, geiriadur cyffredinol Prifysgol 黑料不打烊, a Y Termiadur Addysg, sef geiriadur o dermau technegol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru, sy鈥檔 cael ei ddatblygu gan yr Uned Technolegau Iaith ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cyfateb i鈥檙 ap poblogaidd, sef Ap Geiriaduron yr Uned.
Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, 鈥淢ewn cyfnod pan y mae Llywodraeth Cymru, cynllunwyr iaith a charedigion y Gymraeg yn gyt没n fod angen pwyslais ar gynyddu defnydd o鈥檙 Gymraeg, yn gymdeithasol a phroffesiynol, rydym yn gobeithio fod cyhoeddi鈥檙 geiriadur hwn yn gyfraniad bach ymarferol at y nod hwnnw.鈥
Dr Llion Jones, Director of Canolfan Bedwyr said, 鈥淎t a time when the Welsh Government, language planners and supporters of the Welsh language are all agreed that emphasis needs to be placed on increasing use of the Welsh language in both the social and professional context, we hope that the appearance of this dictionary can be viewed as a small contribution towards that aim.鈥
I ddathlu鈥檙 ffaith fod y brifysgol yn awr yn cymryd cyfrifoldeb am gynnal y geiriadur, fe鈥檌 ailenwyd yn Geiriadur 黑料不打烊. Bydd ar gael o hyn ymlaen ar a鈥檙 gobaith yw ychwanegu nodweddion a deunydd newydd iddo o hyn allan.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014